Awdurdod

Awdurdod S4C

Corff annibynnol yw Awdurdod S4C sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rhaglenni teledu Cymraeg. Mae'r Awdurdod yn atebol am allbwn S4C a rheolaeth gywir S4C.

Caiff ei ddyletswyddau statudol eu neilltuo iddo gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 a Deddfau Darlledu 1990 a 1996. Mae'r dyletswyddau hyn yn cynnwys paratoi Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol. Mae rolau allweddol yr Awdurdod yn cynnwys y canlynol:

  • goruchwylio, cymeradwyo a chraffu rheolaeth gywir S4C;
  • sicrhau bod S4C yn darparu gwasanaethau teledu S4C;
  • gweithredu fel corff cyhoeddus; a
  • gweithredu fel rheolydd ynghylch materion penodol.

Cyfrifoldeb y Prif Weithredwr, swyddogion a staff S4C yw rheoli a chynnal S4C o ddydd i ddydd. Mae'r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys darparu gwasanaethau teledu S4C. Nid yw'r Awdurdod yn ymwneud ag unrhyw benderfyniadau a wneir o ddydd i ddydd.

Yn benodol, nid yw'n ymwneud ag unrhyw benderfyniadau comisiynu neu benderfyniadau golygyddol. Mae'r arfer sefydledig hwn yn cynnal annibyniaeth yr Awdurdod, gan sicrhau ei fod yn cael ei gadw hyd braich o benderfyniadau a wneir gan y swyddogion, yn enwedig ynghylch cynnwys rhaglenni.

Newyddion a chyhoeddiadau diweddaraf ynglŷn ag Awdurdod S4C

  • Huw Jones
  • Rheon Tomos
  • Glenda Jones
  • John Davies

Huw Jones (Cadeirydd)


08/06/2011

Bu Huw Jones yn Brif Weithredwr S4C am bron i 12 mlynedd, rhwng 1994 a 2005, yn dilyn gyrfa lewyrchus fel cynhyrchydd teledu annibynnol, gŵr busnes a pherfformiwr. Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weithredwr S4C, fe gadeiriodd Huw Jones is-gwmni masnachol y Sianel a bu'n Gyfarwyddwr SDN Cyf, deiliad trwydded deledu ddigidol ddaearol. Bu'n Gadeirydd yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd am dair blynedd hefyd.

Mae Huw wedi bod yn flaenllaw yn y byd cerddoriaeth a chyfryngau Cymraeg ers y 1960au hwyr. Roedd yn un o gyd-sylfaenwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn Rheolwr y cwmni hyd at 1981. Cyd-sefydlodd un o'r cwmniau teledu annibynnol cyntaf, Teledu'r Tir Glas, yng Nghaernarfon, yn 1981 gan gynhyrchu a goruchwylio rhaglenni adloniant, ffeithiol a phlant nes iddo ymgymryd â'i swydd yn S4C. Chwaraeodd ran allweddol yn sefydlu Barcud, y cwmni adnoddau teledu, ac roedd yn Gadeirydd y cwmni rhwng 1981-1993. Huw oedd Cadeirydd cyntaf Teledwyr Annibynnol Cymru (1984-1986).

Magwyd Huw yng Nghaerdydd. Astudiodd Ieithoedd Modern yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Daeth yn adnabyddus yn gyntaf oll fel canwr poblogaidd a chyflwynydd rhaglenni teledu. Ar hyn o bryd, Huw yw Cadeirydd Portmeirion Cyf ac Is-Gadeirydd Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru. Mae'n aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyngor RSPB ac mae'n Is-Gadeirydd Canolfan Dysgu Iaith Nant Gwrtheyrn.

Rheon Tomos (Is-Gadeirydd)


07/12/2010

Mae gan Rheon gefndir ym myd cyfrifeg a rheolaeth ariannol gyda chymwysterau CPFA. Mae ganddo brofiad ariannol yn y sector gyhoeddus a phreifat ac wedi bod yn gysylltiedig am flynyddoedd gyda nifer o fyrddau a phwyllgorau archwilio, gan gynnwys cyfnod tra'n gweithio fel Cyfarwyddwr i gwmni Deloitte & Touche LLP.

Yn 2005 sefydlodd gwmni ymgynghori ar gyfer nifer craidd o gwsmeriaid ar reolaeth ariannol, datblygiadau ym maes effeithiolrwydd ac aseiniadau trefn lywodraethol. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd CIPFA yn Ne Cymru ac yn aelod o Gyngor Rhanbarthol y Sefydliad. Mae'n Drysorydd Urdd Gobaith Cymru.

Rheon yw Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Rheoli Risg Awdurdod S4C. Cyn ei benodi'n Is-Gadeirydd bu'n aelod o'r Awdurdod ers 20/11/2006.

Dr. Glenda Jones


01/04/2010 - 31/03/2014

Wedi graddio mewn llenyddiaeth Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Aberystwyth fe barhaodd Glenda ei hastudiaethau drwy astudio Cymraeg Canol yn Aberystwyth, a oedd yn cynnwys cyfnod o amser yng Ngholeg St Ioan yng Nghaergrawnt, cyn derbyn ei doethuriaeth yn 1990 o Goleg Prifysgol Cymru. Wedi gweithio ym myd darlledu am dros 20 o flynyddoedd fe dreuliodd Glenda 15 mlynedd yn gweithio i'r BBC yng Nghaerdydd yn yr Adran Cynhyrchu Teledu - 10 mlynedd fel Uwch Gynhyrchydd i'r Gorfforaeth gan weithio yn y diwedd fel Prif Gynorthwyydd i Gyfarwyddwr BBC Cymru.

Yn 2000 fe fentrodd i weithio ar liwt ei hun ym maes cyfryngau a chyfathrebu a gweithiodd ar nifer o brosiectau rheoli a chynhyrchu. Bu Glenda yn aelod o Bwyllgor Rheoli BAFTA Cymru (2000-2006), gan gadeirio'r Pwyllgor (2003-2005).

Glenda yw Cadeirydd ymddiriedolwyr Cronfa Goffa Ryan Davies. Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae Glenda wedi cynyddu ei gwaith yn y maes hyfforddi a hyrwyddo ar gyfer cleientiaid yn y sector breifat a chyhoeddus ac yn ddiweddar fe gymhwysodd fel arolygydd lleyg Estyn. Mae Glenda yn aelod o Bwyllgor Cynnwys a Phwyllgor Cwyion a Chydymffurfiaeth Awdurdod S4C.

John Davies


01/04/2010 - 31/03/2014

Y Cynghorydd John Davies yw Arweinydd Cyngor Sir Benfro. Cyn hynny roedd yn aelod o gabinet yr Awdurdod gyda chyfrifoldebau dros Blant, Addysg a'r Iaith Gymraeg mewn cyfnod o newid mawr yn y Sector Addysg Gynradd yn Sir Benfro. Mae hefyd yn gyn gyfarwyddwr bwrdd arholi CBAC a Chyngor Llyfrau Cymru.

Am naw mlynedd ef oedd y llais gwledig ar Gyngor Defnyddwyr Trydan ac yna daeth yn aelod o Golwg ar Ynni Cymru. Yn ogystal mae John yn gyn Ddirprwy Lywydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a gwasanaethodd am nifer o flynyddoedd fel ei llefarydd dros Addysg a Dysgu Gydol Oes. Ers 2008 ef yw Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Rhwng 2004 a 2008 roedd yn aelod o banel cynghori gweinidogaethol Llywodraeth y Cynulliad dros Safonau Ysgolion a Gwelliannau a tan 2008 fe gynrychiolodd Cymru ar y Corff Cyflogwyr Cenedlaethol ar gyfer Athrawon Ysgol. Mae'n aelod o Awdurdod Heddlu Dyfed Powys. Mae John yn aelod o Bwyllgor Cynnwys a Phwyllgor Archwilio a Rheoli Risg Awdurdod S4C.