Fe ddechreuodd S4C ddarlledu am 18:00 nos Lun 1 Tachwedd 1982. I ddechrau, 22 awr o raglenni Cymraeg oedd yn cael eu darlledu bob wythnos, ochr yn ochr â rhaglenni Saesneg o wasanaeth Channel 4. Heddiw, mae S4C yn sianel gyfan gwbl Gymraeg yn darlledu dros 115 awr o raglenni bob wythnos. Cwmnïau cynhyrchu annibynnol sy'n creu'r rhan fwyaf o raglenni S4C. Mae ITV Cymru hefyd yn cael ei gomisiynu i gynhyrchu rhaglenni. Mae BBC Cymru yn cynhyrchu tua deg awr yr wythnos o raglenni ar gyfer S4C, gan gynnwys y newyddion a'r sebon dyddiol Pobol y Cwm, wedi'u hariannu o ffi'r drwydded. Mae prif swyddfa S4C yn Llanisien, Caerdydd ac mae gan S4C swyddfa yng Nghaernarfon, Gwynedd.
Cyn 1982, roedd rhai rhaglenni Cymraeg yn cael eu darlledu ar BBC 1 ac ITV. Yn ystod y 1970au, fe benderfynodd llywodraeth Prydain y byddai pedwaredd sianel deledu yn cael ei sefydlu, i ymuno â BBC 1, BBC 2 ac ITV. Roedd y sianel newydd hon yn cael ei hystyried gan nifer yn gyfle ar gyfer dechreuad newydd ym maes darlledu gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Yn dilyn ymgyrchu dwys, sefydlwyd S4C gan Ddeddfau Darlledu 1980/1981.
Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) llywodraeth Prydain sy'n ariannu S4C. Mae hefyd gan S4C rai pwerau i gynhyrchu incwm masnachol, er enghraifft trwy werthu hysbysebion. Yn 2010 fe gyhoeddodd DCMS newidiadau mawr i'r ffordd y mae S4C yn cael ei ariannu. Mae trafodaethau am y newidiadau hyn ar y gweill rhwng S4C, y BBC a DCMS.
Mae Awdurdod S4C yn awdurdod darlledu annibynnol sy'n gyfrifol am bolisi strategol y sianel. Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon llywodraeth Prydain sy'n gyfrifol am benodi Cadeirydd ac aelodau Awdurdod S4C yn dilyn proses benodi gyhoeddus.
Mae S4C yn darlledu gwahanol mathau o raglenni, gan gynnwys chwaraeon, drama, cerddoriaeth, ffeithiol, newyddion, adloniant a digwyddiadau, ar nifer o lwyfannau, gan gynnwys y we. Mae S4C yn cynnig gwasanaethau helaeth ar gyfer plant: Cyw ar gyfer gwylwyr iau, Stwnsh ar gyfer plant hŷn a rhaglenni ar gyfer plant a phobl ifanc yn eu harddegau.
Yng Nghymru, mae S4C ar gael ar Freeview 4, Sky 104, Virgin TV 166 a Freesat 104. Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon mae S4C ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166. Mae S4C yn darlledu sianel deledu Manylder Uwch, S4C Clirlun, ar yr un amser ag S4C, sydd ar gael ar Freeview HD 105 yng Nghymru. Mae S4C yn darlledu'n gydamserol ar y we, ar s4c.co.uk, trwy Brydain. Mae rhai rhaglenni ar gael i'w gwylio'n fyd eang. Mae gwybodaeth am ein rhaglenni hefyd ar gael ar s4c.co.uk.
Mae S4C yn cynnig gwasanaeth gwylio ar alw o'r enw Clic. Mae'r rhan fwyaf o raglenni ar gael i'w gwylio ar s4c.co.uk/clic am 35 diwrnod ar ôl y darllediad teledu cyntaf. Mae rhai rhaglenni ar gael i'w gwylio'n fyd eang.
Am fanylion pellach, cysylltwch os gwelwch yn dda â gwasanaeth gwybodaeth S4C, y Wifren Gwylwyr.