Neidio at y cynnwys

S4C

Cyngerdd Aberteifi

Jess yn dathlu 900 mlwyddiant tref Aberteifi

Eleni mae tref Aberteifi yn dathlu ei 900 mlwyddiant, ac i nodi'r achlysur mae'r gymuned wedi bod yn cynnal digwyddiadau a dathliadau gydol y flwyddyn.

Mae'r gyfres Cyngerdd yn cynnig blas i ni ar ddwy gyngerdd wahanol a gynhaliwyd yn Theatr y Mwldan, Aberteifi, ym mis Awst.

Mae'r gyngerdd gyntaf yn cynnwys perfformiad gan Ryland Teifi a'i fand a'r band roc Jess.

Ffurfiwyd Jess yn 1987 gan bedwar ffrind o Ysgol Uwchradd Aberteifi - Brychan Llŷr, Emyr Penlan, Chris Lewis ac Owain Thomas - a nhw oedd un o fandiau Cymreig mwyaf poblogaidd y 1990au.

"Ry'n ni'n chwarae gyda'n gilydd tua unwaith y flwyddyn erbyn hyn," meddai Brychan Llŷr, prif leisydd Jess. "Ond mae'n sbel fawr ers i ni chwarae yn Aberteifi. Alla i ddim hyd yn oed cofio pryd oedd y tro diwethaf. Mae hi'n ddeng mlynedd mae'n siŵr. Roedden ni'n falch o gael bod yn rhan o ddathliadau 900 mlynedd Aberteifi, ac mi wnaethon ni wirioneddol fwynhau."

Gyda dros ugain mlynedd bellach er i Jess ffurfio, mae'n anochel fod y band wedi newid.

"Mae pethau yn wahanol erbyn hyn," meddai Brychan. "Ry'n ni'n fwy hyderus, a gan nad oes gennym ni ddim byd i'w brofi bellach, gallwn ni fwynhau'r achlysur. Ry'n ni'n chwarae cyn lleied erbyn hyn, mae pob gig yn bwysig i ni a dwi'n gobeithio ei fod yn achlysur arbennig i'r gynulleidfa hefyd."

Ail gyngerdd y rhaglen yw Cyngerdd Gala fawreddog. Yn perfformio roedd y mezzo soprano o Lithwania Justina Gringyte, y tenor Aled Hall gyda Stephen Pilkington yn cyfeilio, seren y West End Elen Môn a Chôr Tempus. Dai Jones, Llanilar oedd yn arwain y noson.

I gyd-fynd â dathliadau Aberteifi, bydd rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol o'r dref. Byddwn yn ymuno mewn gwasanaeth arbennig i ddathlu'r 900 mlwyddiant a gynhaliwyd yng Nghapel Bethania ac yn clywed hanes y dref gyda'r Tad Seamus Cunnane.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales