Neidio at y cynnwys

S4C

Cyngerdd Bala

Cyngerdd Y Bala

Uchafbwyntiau Wa Bala

Cewch ail fyw rhai o berfformiadau gorau Wa Bala mewn rhaglen arbennig.

Bydd y rhaglen Cyngerdd Y Bala yn cynnwys y gorau oddi ar y llwyfan yn ogystal â sgwrs gyda rhai o'r trefnwyr a'r perfformwyr.

Sefydlwyd Wa Bala yn 2005 ac mae'r ŵyl wedi tyfu o nerth i nerth. Ymhlith y bandiau fu ar y llwyfan eleni roedd Bryn Fôn, One Man Down, Y Bandana, Candelas a Gai Toms a'r band. Gallwch fwynhau blas o'u perfformiadau nhw yn y rhaglen hon.

"Cwbwl wnaethon ni yn y dechre oedd cael dim ond dau neu dri grŵp wrth y llyn a daeth na ryw 450 o bobl," meddai Geraint Jones, un o'r trefnwyr am yr ŵyl gyntaf yn 2005.

Cafodd y trefnwyr dipyn o sioc erbyn yr ail flwyddyn wedi i'r gynulleidfa fwy na threblu i dros 1,500 o bobl. Mae hi wedi tyfu fwy fyth ers hynny gyda chynulleidfa fwyaf erioed yn y digwyddiad eleni.

"Mae llwyddiant eleni yn dangos y cwbl," meddai un o'r trefnwyr Dei John, "Bydd Wa Bala yn mynd o nerth i nerth!"

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales