Skip to content

S4C

2008-09 Poems

2007-08 Poems

2006-07 Poems

2005-06 Poems

2004-05 Poems

2003-04 Poems

2006-7 Ysgol Y Borth

Grŵp Carolyn

Pe bai’r lleuad yn gallu siarad,
byddai’n dweud wrth bawb am gael cariad.
Ond ni fyddai neb yn gwrando –
mae pawb yn rhy brysur yn chwarae Nintendo!

Mae yna ddyn yn Ynys Môn
sydd wastad yn siarad ar ei fobeil ffôn,
yn ei dŷ ac wrth ei waith,
ar ei wyliau ac ar bob taith.

Grŵp Alex

Pe ba’r sêr yn syrthio i lawr,
byddent yn creu ffrwydriad mawr.
Sŵn anferthol ar ddiwedd eu taith,
a’u tad, y lleuad, ddim yn hapus chwaith!

Grŵp Megan

Mae yna ddynes yn byw yng Nghaerdydd
sydd wastad yn gwario ei harian bob dydd
ar ddillad a deimonds a sgidiau mewn rhes,
oherwydd bod ganddi hi ormod o bres.

Grŵp Llinos

Mae yna ddynes yn byw yng Nghaerdydd
sydd wastad yn cadw pethau yn gudd.
Datguddiodd un o’i chyfrinachau;
ei bod hi wrth ei bodd yn glanhau!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales