Tri pheth wna imi bwdu
Y Saeson yn ein trechu,
Gorfod byta brechdan spam
A mam yn diffodd teledu.
Tri pheth sydd yn fy llonni
Gweld tîm fy mrawd yn colli
Stwffio'i wyneb yn ei ginio
A'i luchio allan drwy'r llenni.
Mae pobol od yn Llanbrynmair
Sy'n cyfarth ac yn bwyta gwair
A'r hwyaid plastig ddaeth o'r ffair.
Rhyfeddach fyth yw rhai Dolfach
Aeth Santa yno gyda'i sach
A chael ei rewi gan hen wrach.
Edrych i fyny ar gawr o ddyn
Sy'n gwarchod ei bobl ar ddechrau'r daith.
Mae'r trenau'n chwysu'n dawel,
Newydd gyrraedd o Siberia bell
Ag eira ar eu brig.
Dwi'n dal wynebau estron hefo'r camera,
Wynebau syth a'r cegau'n gweiddi
A sŵn gwahanol ieithoedd
Yn ddwndwr yn fy mhen.
'Dan ni'n dianc o'r gyfraith,
mae'r bagiau'n drwm,
ond mae plentyn ar goll!
Cysurwn ein gilydd
Wrth golli'r trên.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales