Skip to content

S4C

2008-09 Poems

2007-08 Poems

2006-07 Poems

2005-06 Poems

2004-05 Poems

2003-04 Poems

2008-09 Poems - Ysgol y Ddwylan, Castell Newydd Emlyn

Year 6, Mrs Jones' class

Mae pobl od yn Aberteifi
Yn bwyta coco pops a grefi.

Rhyfeddach fyth yw criw Cwmcych
Yn hoff o grensian sirial sych.

Ond gwell yw cadw draw o Lambed
Yn fanno maen nhw'n sugno'r carped.

Un rhyfedd iawn yw Wncwl Sam
Sy'n hoff o smocio brechdan jam.

Bagiau Plastig

Mewn tomen daclus wrth y cownter
Maen nhw'n ein denu gyda'u sglein a'u lliw
Mae'u crwyn yn llyfn, dryloyw, oer
A'u dolenni fel clustiau cyfeillgar.

Ac ar ôl llyncu ein nwyddau
A'u boliau'n dynn
Awn gartre gyda'n gilydd.

Ond yna mae'r berthynas yn chwalu
- mae'r bagiau'n hedfan bant
Yn parasiwtio mewn i'r coed
Yn hongian yno fel dillad rhacs ar lein
Fel baner annibendod.

Maen nhw'n suddo yn araf ac yn slei i'r môr
Fel slefrod peryglus
yn barod i lapio'u hunain
Yn sgarff am wddf crwban
Neu'n facyn i forlo
Cyn eu crogi a'u tagu.

Rhaid cefnu ar y fath ffrindiau ffals
Y plastig diflas dieflig;
A cheisio cyfeillion amgenach
Mae cotwm yn fwy caredig!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales