Mae'r blanced glas yn mwytho'r tywod,
A'r tonnau bach yn dawnsio ger y lan,
Eu brodyr mawr yn curo ar y creigiau,
A phelydrau'r haul yn troi'r byd
Yn drysor aur.
Dolffiniaid yn dawnsio yn y dyfnder,
Ceffylau'r môr yn clebran a chwerthin,
Cranc yn crensian ar hyd y cregyn,
A'r pysgod prydferth yn plymio i'r glesni.
Gwylan wen yn gwylio'r sioe,
A chrwbanod chwilfrydig yn dod mas i weld y byd,
Y dŵr yn dadlau gyda'i hun yn undonog,
Triongl o adar yn huno-hedfan,
Wedi eu taith hir o ben draw'r byd.
Ac wrth i'r lli sibrwd ei hwiangerdd
A siglo cwch unig i gysgu,
A'r tonnau'n tawelu eu tiwn hypnotig,
Fe ymlaciwn ni i guriad calon y môr.
Roedd Parri'r Parot Porffor
Yn byw ar ei ben ei hun,
Mewn caets fawr, borffor brydferth
A doedd e byth yn flin.
Yr oedd ei fyd yn borffor,
Ei big, ei grib, ei blu,
A dweud y gwir roedd popeth,
Yn borffor yn ei dŷ.
Roedd ei siglen fach lliw pansi,
A'i ddrych lliw mwyar duon,
Ei gyrtens eirin, papur tywod grawnwin,
Yn grêt i'w biws bartïon.
Gyda Fioled y bwji,
Ac Iris y cocatŵ,
A Ffigys a Phlwmsen yr adar serch
A Betys y gwdihŵ.
Ac yn y byd bach porffor
Dim ond un lliw oedd i gael,
Pob coeden, llyfr a chacen,
A hyd yn oed yr haul.
Roedd yn paentio ei grafangau,
Gyda nail varnish lliw gwin
A phan yn paentio dim ond piws
Oedd lliwiau bob un llun.
Os gwrddwch chi â pharot piws,
Yn biws o'i ben i'w gynffon,
Gofynnoch "Ife Parry wyt ti?"
Ac fe ddewch chi’n syth yn gyfeillion!
Mae'r Cennin Pedr mawr yn canu,
Mae'r pelydrau mêl i gyd yn tywynnu,
Mae ei blanced aur yn fy nghynhesu,
A'r gwylanod gwynion i gyd yn canu.
Mae cwrlid esmwyth glân y tywod,
Yn twymo dan wres Brenin y gofod,
Sy'n hoffi rhoi ei gynnes faldod,
Y darn punt anferth yn disgleirio'n hynod.
A heddiw dan ei braf oleuni,
Llygad mawr sy'n gyfaill i mi,
A'r sidan glas sydd iddo'n wely,
Yn taflu ei liw ar flodau’r heli.
Ac wrth i ni gyd droi am adre,
Mae'r belen aur yn suddo i rywle,
Atlantis? Y Gorwel? Y Dyfnder? Y Gwagle?
Dim ond am noson – daw yn ôl yn y bore.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales