Mae S4C wedi ymrwymo i helpu pobl i ddysgu a gwella eu Cymraeg. Rydym ni’n gwneud hynny mewn sawl ffordd, gan gynnwys:
Mae gwefan S4C wedi ei hadeiladu i gydymffurfio â thargedau 1 a 2 WCAG tra'n gwneud pob ymdrech i drio cyrraedd targed 3 mewn rhai rhannau o'r wefan. Mae gwefannau rhaglenni S4C, gwefan dysgwyr S4C a rhai adrannau eraill o'r wefan angen eu hail adeiladu i gyrraedd y safonau hygyrchedd a byddwn yn gwneud hyn yn raddol.
Mae gwefan dysgwyr S4C yn rhoi gwybodaeth gefndir am rai o raglenni’r Sianel ac yn darparu ymarferion iaith drwy gyfrwng posau a chlipiau o raglenni. Nod y wefan ydi cynorthwyo dysgwyr i ddeall a mwynhau rhaglenni Cymraeg S4C yn well ac mae’r deunydd ar gael ar bum lefel iaith, o Heb Ddechrau Eto i Uwch a Gloywi.
Mae’r rhain i’w cael yn y Gymraeg ar gyfer dysgwyr ac mewn Saesneg ar gyfer dechreuwyr. Maen nhw ar gael drwy declyn llaw y set deledu neu drwy’r botwm coch rhyngweithiol.
Bellach mae Cymorth i Ddysgwyr drwy’r botwm coch rhyngweithiol ar deledu digidol. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol am raglenni ac eitemau cyswllt a fydd o gymorth i fwynhau rhaglenni S4C yn well. Fel y Wefan, mae'r wybodaeth wedi ei haddasu ar gyfer lefelau pwrpasol. Mae'r gwasanaeth yn rhwydd i'w ddefnyddio drwy wasgu'r botwm coch ar eich teclyn llaw ac ar gael ar loeren a Freeview.
Mae S4C yn darlledu rhaglenni teledu arbennig ar gyfer dysgwyr. Mae’r rhain i’w gweld ar S4C digidol am 12.00 o ddydd Llun hyd ddydd Gwener yn y slot dysgu@12 ac yn cynnwys rhaglenni fel Welsh in a Week, Talk About Welsh a Ding Dong. Rydym hefyd yn dangos rhaglen newyddion mewn Cymraeg syml ar S4C ar brynhawn Sul o’r enw Yr Wythnos.
© 2009 S4C
O Gymru / Made in Wales