S4C

Y wefan hon

Termau ac Amodau Cyfreithiol Gwefan S4C

Nodyn ymwrthodiad yw hwn, dylech ei ddarllen cyn defnyddio gwefan S4C.Mae eich mynediad i Wefan S4C yn ddarostyngedig i'r telerau a'r amodau cyfreithiol canlynol a fydd yn effeithiol o'r dyddiad cyntaf i chi gael mynediad i'r Wefan. Trwy fynd i mewn i Wefan S4C, rydych yn cytuno'n ddiamod i'r cyfryw delerau ac amodau. Os nad ydych yn cytuno â nhw, yna ni fydd hawl gennych i ymweld â Gwefan S4C ac ni ddylech fynd i mewn i Wefan S4C.

Telerau ac Amodau

  1. Mae'r holl hawliau yn y Wefan (gan gynnwys hawlfraint, hawliau bas data, a hawliau eiddo deallusol eraill) wedi'u trwyddedu i neu yn eiddo i S4C ar bob adeg. Mae'r holl ddeunydd a gynhwysir ar Wefan S4C gan gynnwys testun, delweddau, graffeg, nodau masnach, logos, nodau gwasanaeth a thebygrwydd gweledol yn ddeunydd perchnogol neu hawlfraint ac oni nodir fel arall ni ellir ei gopïo, ei atgynhyrchu, ei ddadlwytho, ei gyfleu, ei drosglwyddo, ei ddosbarthu, ei gadw mewn unrhyw fodd (gan gynnwys ar unrhyw wefan arall) nac ymyrryd ag ef mewn unrhyw ffordd ac eithrio y gallwch fodd bynnag ddadlwytho un copi o ddeunydd a ddangosir ar Wefan S4C ar eich cyfrifiadur cartref at ddefnydd anfasnachol personol ar yr amod eich bod yn cadw pob hawlfraint, cydnabyddiaeth a hysbysiad arall a gynhwysir ar y deunydd. Ni fyddwch yn addasu deunydd o'r fath nac yn ei ddefnyddio at unrhyw ddiben arall.

  2. Bydd S4C yn gwneud pob ymdrech resymol i fonitro ac arolygu'r drafodaeth, y sgwrsio, y cyfleu, y trosglwyddo ac unrhyw ddialog arall ar Wefan S4C o bryd i'w gilydd ac i ddilyn yr arferion gorau yn gyffredinol. Serch hynny, ni all S4C fonitro'r holl gyfryw ddeunydd yn barhaus ac mae Gwefan S4C a'i chynnwys wedi'i ddarparu "FEL Y MAE". Ni fydd S4C yn gyfrifol ac y mae yma yn ymwrthod yn benodol hyd y bo'r gyfraith yn caniatáu hynny â phob cyfrifoldeb ac atebolrwydd o unrhyw fath (gan gynnwys atebolrwydd am unrhyw iawndal gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw gostau uniongyrchol neu anuniongyrchol neu golledion eraill mewn perthynas â neu sy'n deillio o unrhyw ddefnydd neu gamddefnydd o Wefan S4C) am unrhyw wall, anghywirdeb, camliwiad, difenwad, anwaith, anwiredd, anlladrwydd, cabledd, deunydd pornograffig, deunydd peryglus neu unrhyw ddeunydd arall a gynhwysir o fewn ei Gwefan. Nid yw S4C yn gwarantu bydd y gweithrediadau sydd wedi'u cynnwys o fewn ei Gwefan yn ddiymyriad neu yn rhydd o unrhyw wallau, nac ychwaith bydd unrhyw wallau yn cael eu cywiro, neu bod ei Gwefan neu'r gweinydd y darperir y Safle arno yn rhydd o bob firws. Nid yw S4C yn gwarantu ymarferoldeb, cywirdeb neu ddibynnedd y cyfryw ddeunydd. Ymhellach, nid yw S4C yn arolygu nac yn monitro cynnwys unrhyw dudalennau i ffwrdd o'r safle nac unrhyw safleoedd eraill cysylltiedig â Gwefan S4C ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd ac ni fydd yn gyfrifol nac yn atebol am unrhyw beth a gynhwysir yno (gan gynnwys, heb gyfyngiad, unrhyw werthiant neu weithrediadau masnachol sy'n digwydd ar y cyfryw safleoedd).

  3. Ni chewch:

    1. gyfleu na throsglwyddo ar unrhyw adeg ar Wefan S4C unrhyw rai o'r deunyddiau hyn:
      • deunydd anweddus, anllad, di-chwaeth neu bornograffig
      • deunydd sy'n anghyfreithlon, yn fygythiol, yn ddifrifol, yn erlidiol neu'n ddifenwol
      • deunydd sy'n hiliol, yn ethnig neu'n grefyddol atgas neu annymunol
      • deunydd sy'n ddifenwol neu'n peri cynnwrf
      • deunydd sy'n gableddus
      • llythyrau cadwyn, cynlluniau pyramid neu hysbysebu na ofynnwyd amdano
      • unrhyw ddeunydd sy'n torri ar hawliau pobl eraill fel hawlfreintiau neu hawliau moesol
    2. gwneud unrhyw beth sy'n cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad tanysgrifiwr arall o Wefan S4C
    3. defnyddio Gwefan S4C at unrhyw ddiben anghyfreithlon
    4. tarfu ar Wefan S4C trwy, er enghraifft, wneud i'r sgrin rolio'n rhy gyflym i danysgrifwyr eraill allu teipio eu negeseuon, neu newid y pwnc yn gyflym er mwyn rhwystro llif y dialog.
  4. Mae S4C yn cadw'r hawl i ddiddymu eich mynediad i'r Wefan ar unwaith a gall gymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn os byddwch yn torri'r telerau ac amodau hyn ar ymddygiad ar-linell.

  5. Cytunwch i beidio â gweithredu ar sail unrhyw wybodaeth neu ddeunydd a gynhwysir ar Safle We S4C na dibynnu arnynt; fe'u darperir gan S4C er diddordeb cyffredinol ac adloniant yn unig. Ni fydd S4C yn atebol ac y mae yma yn ymwrthod yn benodol hyd y bo'r gyfraith yn caniatáu hynny ag unrhyw atebolrwydd sy'n deillio o'ch dibyniaeth ar wybodaeth o'r fath o unrhyw natur boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.

  6. Ni fydd unrhyw wybodaeth neu ddata a drosglwyddwch neu a gyflëwch ar Wefan S4C yn gyfrinachol a bydd yn perthyn yn ddiamod i S4C a gellir ei defnyddio gan S4C at unrhyw ddiben gan gynnwys heb gyfyngiad ar gyfer atgynhyrchu, datgelu i drydydd partïon, darlledu, trosglwyddo, cyfleu neu fel arall yn ôl doethineb lwyr S4C, ac mewn cydnabyddiaeth am ganiatâd gan S4C i chi gael mynediad i'w Wefan ac am gydnabyddiaeth arall dda a gwerthfawr yr ydych trwy hyn yn cydnabod ei bod yn ddigonol, yr ydych trwy hyn yn aseinio i S4C trwy aseiniad presennol o hawlfraint presennol a dyfodol bob hawl o unrhyw fath yn ac i ddeunydd o'r fath trwy'r byd ac am byth gan gynnwys pob adnewyddiad a rifersiwn o'r cyfryw hawliau.

  7. Os oes trwydded deledu gyfredol gyda chi, does dim angen trwydded ar wahân i wylio S4C ar-lein. Os ydych chi'n gwylio gwasanaeth S4/Clic heb fod gyda chi drwydded deledu, dylech chi holi'r Awdurdod Trwyddedau Teledu a oes angen i chi brynu trwydded. Noder y gellid bod angen trwydded i wylio darpariaeth deledu ar-lein yn y dyfodol.

  8. Cytunwch i indemnio S4C a'i chadw wedi ei hindemnio rhag ac yn erbyn unrhyw a phob hawliad, iawndal, treuliau, costau ac atebolrwydd sy'n deillio mewn unrhyw ffordd o'ch mynediad i Wefan S4C a'ch defnydd o'r safle honno ac eithrio yn unol â'r telerau a'r amodau hyn.

  9. Gall S4C o dro i dro diweddaru a newid y telerau a'r amodau hyn a chytunwch i gael eich rhwymo gan newidiadau o'r fath a dylech felly ymweld â'r dudalen hon o dro i dro er mwyn ymgyfarwyddo â'r newidiadau hynny.

  10. Nid yw S4C yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb i gynnal na diweddaru Gwefan S4C ac nid yw S4C yn datgan neu'n gwarantu bod yr wybodaeth sydd i'w chanfod arni yn gywir, cyflawn neu'n gyfoes.

  11. Os bydd unrhyw un o'r telerau ac amodau hyn yn cael eu gwahardd neu eu barnu yn ddi-rym neu'n anghyfreithlon, yna bydd cymaint ag sy'n angenrheidiol o'r ddarpariaeth honno'n cael ei ddileu o'r telerau ac amodau hyn a'i wneud yn aneffeithiol, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl heb newid y telerau ac amodau sydd yn weddill.

  12. Dehonglir y telerau ac amodau hyn yn unol â chyfraith Cymru a Lloegr.