Rhaglenni llawn hwyl a sbri i'r plant lleiaf.
Pan fo Alma'n anghofio cân, mae Popi yn awgrymu mynd i Gastell y Caneuon Coll.
Hwyl i blant meithrin gyda Cled a'i ffrindiau wrth iddynt ddarganfod y byd gwych sydd o'u hamgylch.
Mae Mali yn gwahodd Ben i ymuno â phicnic blynyddol y tylwyth teg. Gobeithio na fydd llifogydd jeli fel y tro diwethaf!
Rhaglen feithrin animeiddiedig gerddorol sydd yn edrych ar y thema o anifeiliaid ar y fferm. Mae plant Cwm Teg yn ymweld â Fferm yr Hafod. Maen nhw'n dysgu am y gwahanol synnau mae'r anifeiliaid yn gwneud ac am y gwahanol fwydydd maen nhw'n eu bwyta.
Problem Elen y tro hwn yw ei bod yn colli ei ffordd, hyd yn oed o gwmpas yr ysgol. Mae Hana ar gael i ddatrys y broblem.
Plant sy'n rheoli'r gemau dysgu yn y gyfres hwyliog hon. Mam Gabriel sy'n gorfod dyfalu pa rifau sydd ar goll.
Er iddo addo helpu Sblash i drefnu parti enfys, y funud mae Meic yn clywed bod trysor ym mhen draw'r enfys mae e'n anghofio am y parti wrth ruthro i geisio dod o hyd iddo. Ond pan ddaw i'r amlwg mai meipen ydi'r trysor, mae ganddo gryn waith i'w wneud i gadw'i addewid i Sblash.
Gyda help a straeon difyr gan Taid, mae Stiw ac Elsi yn paratoi i wersylla yn yr ardd gefn.
Wel mae 'na lwch yn Nhy'r Cloc heddiw - ond wedi tipyn bach o frwsio a sgwrio, mae'r lle'n lân unwaith eto. Mae Anti Poli'n cyrraedd â llond ei dillad o ddail a phethau eraill. Mae hyn yn ei hatgoffa o stori am y Draenog Bach sydd yn rowlio lawr y bryn ar ddiwrnod oer o aeaf ac yn casglu bob math o bethau ar ei bigau ar y ffordd. Pan mae'n cyrraedd y gwaelod, mae o'n teimlo'n gynnes ac yn edrych yn lliwgar iawn! Mae yna gân ar y ffordd!
Mae'n rhaid i'r Octonots symud rhai o greaduriaid y môr ar frys cyn i losgfynydd tanddwr ffrwydro, ond mae un creadur sy'n benderfynol o beidio symud: Pysgbobyn araf, seimllyd.
Rhaglenni llawn hwyl a sbri i'r plant lleiaf.
Mae Mwnci yn falch iawn o'i gynffon hir ac yn brolio beth all wneud â hi. Mae'n credu mai ei gynffon e yw'r gorau yn y byd cyn iddo weld cynffon Paun. Mae Mwnci yn gofyn i Paun chwarae ei hoff gêm 'Mwnci'n Dweud Mwnci'n Gwneud'. Mae'n edrych yn falch ac yn agor a chau ei gynffon mawreddog.
Mae Dicw yn dysgu sut i chwarae cuddio.
Mae'r Abadas yn brysur yn chwarae 'ceffylau' pan ddaw Ben ar eu traws. Mae gan air heddiw rywbeth i'w wneud â cheffylau hefyd. Tybed beth all e fod?
Mae car Dadi Mochyn yn rhedeg allan o betrol ond mae garej Taid Mochyn yn agos. Ar ôl gwneud galwad ffôn mae Taid Mochyn ar ei ffordd.
Mae'r Sgitlod yn dangos eu casgliad cregyn i Nodi. Ond does ganddyn nhw ddim ond un gragen! Mae Nodi yn mynd â nhw i'r traeth i gasglu mwy.
Mae'r Dywysoges Fach yn mynd â Tedi Gilbert i bob man hyd nes iddo golli ei goes.
Mae'r anifeiliaid yn chwarae yn yr ardd yn 'Ty Cyw' heddiw, ond mae bagiau pawb wedi cymysgu a does neb yn gwybod pwy biau beth! Ymunwch â'r criw wrth iddynt geisio datrys y broblem.
Cyfres wedi'i hanimeiddio i blant ifanc, sy'n dilyn helyntion Ffi Ffi a'i Ffrindiau sy'n byw mewn gardd hudol.
Anturiaethau Bob y Bildar.
Cyfres gartwn i blant.
Rhaglenni llawn hwyl a sbri i'r plant lleiaf.
Un noson wrth i bawb arall gysgu'n sownd, mae Tili'n cael trafferth cysgu. Mae hi'n ochneidio'n uchel ac yn deffro'i ffrindiau. Wrth i bawb geisio meddwl am ffyrdd i'w helpu, mae Tincial yn cael syniad am gyfri defaid gwahanol iawn.
Mae'r plant yn dangos mai teganau syml yw'r gorau.
Dewch i ymuno â Gareth a Cyw yn y Cwtch Coeden. Heddiw bydd Jac y Jwc yn ymweld â nhw a bydd y ddau yn ceisio dysgu Jac y Jwc sut i ofalu am ei gi Mot gyda help stori gan Einir, cân gan Rachael a choginio gan Trystan.
Mae Norman a'i ffrindiau yn mynd i drafferth wrth drio hedfan llusernau yn yr awyr i ddathlu'r Flwyddyn Newydd Tsieineaidd.
Plant sy'n rheoli'r gyfres llawn hwyl hon, wrth ddysgu'r oedolion i siarad Cymraeg. Heddiw, mam Ffion sy'n mynd ar helfa liwiau o amgylch y ty.
Mae Chwit a Chwat yn gallu hedfan, diolch i hud Efa! Yn hytrach na dweud wrth y Frenhines mae Meic yn ceisio achub y cwn ei hun ond yn gorfod derbyn yn y diwedd mai mam sy'n gwybod orau weithiau!
Dim gwybodaeth bellach ar gael ar hyn o bryd
Cot law, welis ac ymbarél sydd gan y Llithroffon ar gyfer Marcaroni heddiw. Mae hi'n bwrw glaw yn y byd mawr mawr - ac mae hynny bob amser yn destun cân. Mae Lwli Lw yn rhoi swn y glaw yn y gân - wel am wych, pych sanau sych!
Mae plant y tylwyth teg a'r corachod yn dysgu am sut mae pethau'n cael eu hailgylchu i wneud teganau newydd. Maen nhw'n cwrdd â Lowri sy'n cael picnic gyda'i theulu.
Newyddion a'r tywydd.
Y Tywydd.
Bydd Nia Wyn yn mentro i'r dwr i ddathlu diwrnod syrffio a bydd Rhys Bidder (Macs o Pobol y Cwm) yn ymuno â ni i sôn am gyfres newydd i bobl ifainc am fywyd gwyllt yn nhrefi Cymru. Cawn glywed hefyd gan Aneirin sy'n cydweithio â Gwyneth Glyn a cherddor o India i gyfieithu gwaith o Wrdw i'r Gymraeg a bydd Rhodri yn gohebu o Neuadd y Ddinas Caerdydd, o noson wobrwyo a gynhaliwyd neithiwr - Gwobrau Ysbrydoli Cymru.
Hen glasur yw dewis Ffion Dafis ar gyfer y gyfres '6 Nofel', sef Cysgod y Cryman gan Islwyn Ffowc Elis. Ceir pedwar darlleniad gan Ffion o'r nofel yn ardal Llanfair Caereinion a gwelwn Ffion yn ymweld â Chlwb Darllen Aberystwyth, sy'n cyfarfod yn nhafarn y Cwps i drafod y nofel. Bydd cyfle i weld rhaglen o'r archif o'r gyfres Portreadau yn trafod bywyd a gwaith Islwyn Ffowc Elis nes ymlaen heno.
Ffasiwn gyda Huw Rees; sgwrs yn y syrjeri gyda Dr Ann a Bridget Bradburn o Ysgol Heol Goffa, Llanelli fydd yn westai yn y stiwdio.
Newyddion a'r tywydd.
Y Tywydd.
Rhaglenni llawn hwyl a sbri i'r plant lleiaf.
Mae 'na gystadleuaeth sboncio'n digwydd fri yn y nen heddiw. Tybed pwy fydd y sbonciwr gorau?
Mae byd hud a lledrith y tu fewn i gwpwrdd Cadi, ac mae antur yn disgwyl amdani hi a'i ffrindiau. Hediw, mae Cadi'n cwrdd â Thylwyth Teg y Dannedd.
Anturiaethau Tomos a'i ffrindiau.
Dewch am dro i Gwm Rhyd y Rhosyn, i ymweld â hen ffrindiau a gwneud rhai newydd. Bydd y Mwnci bach o Lyn wrth ei fodd yn mynd am dro i'r llecyn bach o dir glas ym mhen ucha'r goedwig - Brest Pen Coed. Cawn ymuno yn yr hwyl wrth ganu.
Mae Sam yn achub pobl mewn trafferth ar y môr ond ydy e'n gallu datrys problem gyda thap sy'n colli dwr?
Plant yw'r athrawon yn y gyfres hwyliog hon wrth iddyn nhw ddysgu oedolion i siarad Cymraeg. Mae Ffion yn tynnu lluniau ac mae ei mam yn gorfod dyfalu'r tywydd.
Rhaglenni i blant: Meic y Marchog, Dona Direidi, Y Brodyr Adrenalini, Ben Dant.
Wedi i Meic geisio adeiladu castell gyda chymorth ei ffrindiau, mae'n siomedig nad yw cystal â Chastell Glyndreigiau. Ond mae'n rhaid dysgu gweld yr ochr orau i bethau, hyd yn oed pan nad yw popeth yn hollol fel y bwriadwyd iddyn nhw fod.
Mae Betsan Brysur yn galw draw i weld Dona Direid achos mae hi mewn panig am ei bod hi wedi cymysgu holl sanau ei ffrindiau yn 'Cei Bach' ar ôl eu golchi nhw. Nawr mae angen eu rhoi nhw yn ôl yn eu parau.
Cartwn gwallgof yng nghwmni'r Brodyr Adrenalini o Réndøosîa. Mae Xan, Adi ac Enk yn cyflawni campau peryglus ac yn mwynhau anturiaethau o bob math.
Croeso i Ynys y Morladron. Ymunwch â Ben Dant a'r morladron o Ysgol Gymraeg Nantcaerau wrth iddynt fynd ar antur i ddarganfod y trysor.
Hwyl a sbri a chyfresi di-ri yng nghwmni cyflwynwyr egnïol Stwnsh.
Cyfres yn dilyn helyntion Sabrina, hanner-gwrach sy'n gorfod gofalu ar ôl Portia, gwrach ifanc o'r 'ochr draw', sydd wedi cael ei danfon i'r ddaear gan ei modryb, Enchantra, i ddysgu sut i gydymffurfio â phobl ifanc y blaned.
Mae'r chwe chogydd ifanc sydd wedi cyrraedd cyn belled â hyn yn derbyn her gan Sirajul Islam i goginio cyri Indiaidd traddodiadol.
Newyddion a chwaraeon dyddiol i bobl ifanc.
Mae Sulwyn wedi cael gweddnewidiad ac mae'n gweithio gyda gwên ac egni ond mae SbynjBob yn dechrau meddwl bod yn well ganddo'r hen Sulwyn.
Cyfres ddogfen. Dilynwn stori Non sy'n un o ddeg o blant wrth iddi drefnu diwrnod lle bydd pob aelod o'r teulu yn dod at ei gilydd i gael tynnu eu llun. Hyd yma mae hyn wedi profi'n amhosibl gan fod cael pawb at ei gilydd yn yr un lle ar yr un pryd yn dipyn o gamp!
Newyddion a'r tywydd.
Y Tywydd.
Mae Sioned yn flin gyda phawb a phopeth, a dydy ymweliad Siôn â'r siop fawr o gymorth. Gwaethygu mae cyflwr meddyliol Hywel wrth iddo fethu â maddau i Gaynor.
Heno, darllediad byw o Wyl Cricieth, golwg ar gryno ddisg newydd o ganeuon protest a Siôn Russell Jones fydd yn y stiwdio am sgwrs a chân.
Tra bo Meical yn cael trafferth cysgu yn nhy Vince, mae Michelle yn ceisio dygymod â'r teimladau cymysg o'i gael yn byw y drws nesaf iddi. Gan fod Griff wedi torri ffenest y siop pizza, mae Kim yn cael ei rhwygo rhwng ei theyrngarwch i'w chariad a'i dyletswydd i'w bos, Barry. Bydd Lowri yn poeni pan glyw am dymer Griff, yn enwedig ag yntau ar fin treulio'r diwrnod gyda Robbie.
Wedi dyddiau o bendroni, penderfyna Garry ddial ar Kevin. Mae Debbie'n bygwth Sheryl ac yn mynnu iddi dynnu'r cyhuddiad o drais yn ôl.
Yr wythnos hon daw'r rhaglen o Ysbyty Neuadd Nevill yn y Fenni gyda'r cyflwynwyr Dr Llinos Roberts a Dr Gwyn Jones wrth y llyw. Bydd Dr Matt Jones yn trafod gwahanol gyflyrau sy'n effeithio ar allu rhywun i anadlu megis emffysema ac asthma ac yn esbonio'r broses feddygol, broncoscopi. Bydd y llawfeddyg Eifion Vaughan-Williams yn cymryd tiwmor o ferch yn ei harddegau a bydd Dr Llinos yn Ysbyty Brenhinol Gwent gyda Dr Gwyn Williams, sy'n esbonio triniaeth sy'n gwella golwg mewn cleifion hyn.
Newyddion 9 S4C a'r tywydd.
Y Tywydd.
Yr wythnos hon mae Malcs yn cryfhau'r garfan ac yn llofnodi Jiws Bach. Mae cymêrs Llanbêr yn curo Pwllheli mewn clincar o gêm i fod ar frig y Gynghrair ond mae'r chwarae'n troi'n chwerw ar ôl sawl colled boenus. Ond mae'r Spice Girls yn dathlu doed a ddel!
Tim Delany sy'n edrych am gariad a heno bydd o'n mynd ar ddêt efo Blod. Byddwn ni'n cael gwybod mwy am y label recordiau - Recordiau Lliwgar - a chawn gerddoriaeth gan Ed Holden a Siddi.
Y Tywydd.
Bydd 'Jess', y grwp eiconig o Aberteifi, yn ymuno â Lisa Gwilym yn Y Stiwdio Gefn yr wythnos hon. Yn cadw cwmni i Lisa a'r Cardis fydd dau o arwyr eraill ein cerdd gyfoes - Bryn Fôn a Meinir Gwilym. Y Stiwdio Gefn - cerddoriaeth at ddant pawb.
Y Tywydd.
Digwyddiadau'r dydd o Gynulliad Cenedlaethol Cymru: Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.