Y Wasg

Priestland yn chwarae i S4C

14/10/2011

Bydd Rhys Priestland yn westai arbennig ar S4C bore yfory yn ystod rhaglen Cwpan Rygbi’r Byd 2011 fydd yn darlledu'r gêm gynderfynol hanesyddol yn erbyn Ffrainc yn fyw o Seland Newydd.

Fe anafodd y maswr 24 oed ei ysgwydd yn ystod y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yn y chwarteri, a bydd James Hook yn cymryd ei le yn y gêm yfory.

Bydd Priestland yn ymuno â’r cyflwynydd Gareth Roberts yn ystod y rhaglen sy’n dechrau am 08:00, gyda’r gic gyntaf am 09:00.

Diwedd

Mwy o newyddion

Hafan y wasg