S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Cân i Gymru 2025

Ceisiadau bellach ar gau ar gyfer Cân i Gymru 2025.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn fyw o stiwdios ffilm Dragon Studios ym Mhenybont ar Ogwr ar nos Wener 28 Chwefror 2025.

Bydd gwobr o £5,000 i gyfansoddwr y gân fuddugol, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr fydd yn cadeirio'r rheithgor ac yn cyflwyno tlws Cân i Gymru i'r enillydd. Bydd cyfle i wylio'r noson fawr yn fyw ar S4C gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn dychwelyd i gyflwyno'r noson.

Mae modd ymuno â'r cyffro yn fyw o Stiwdio'r Ddraig, a bydd tocynnau ar gael i'w archebu yn fuan iawn.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?