Y dysgwyr enwog yn ôl ar S4C i ddathlu'r Nadolig
Gwyliwch y panto cyfan drwy glicio ar y llun uchod
Mae'r grŵp o enwogion fu'n dysgu Cymraeg yn y gyfres cariad@iaith:love4language yn dychwelyd i S4C ar Noswyl Nadolig ar gyfer rhaglen arbennig i ddathlu'r Ŵyl.
Nia Parry a Gareth Roberts sy'n cyflwyno'r rhaglen ar 24 Rhagfyr am 21:30 pan fydd y dysgwyr enwog yn ceisio ailafael a'u gwersi Cymraeg bron pum mis wedi iddynt dreulio wythnos yn dysgu'r iaith ar S4C ym mis Gorffennaf.
Y tro hwn mae thema Nadoligaidd i'r tasgau sy'n cynnwys plufo twrci, coginio mins peis a pherfformio pantomeim Nadolig - ond faint o Gymraeg maen nhw'n ei chofio?
Fe ddaeth pob aelod ond un o'r grŵp at ei gilydd ar gyfer y rhifyn Nadoligaidd a ffilmiwyd yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin. Yno roedd enillydd y gyfres Melanie Walters, ynghyd â Colin Charvis, Helen Lederer, Josie d'Arby, Lembit Öpik, Matt Johnson a Rhys o GLC. Yn anffodus, roedd Sophie Evans wedi methu cymryd rhan yn y rhaglen am ei bod hi'n brysur yn serennu ar lwyfan y West End yn y sioe The Wizard of Oz.

