Enigma'r byd rygbi
Mewn rhaglen ddrama ddogfen am yr hyfforddwr rygbi byd-enwog, Carwyn James, cawn bortread pwerus o'r cymeriad enigmatig o Gefneithin, ger Llanelli.
Yn y rhaglen gan T. James Jones a Dylan Richards, mae'r actor, Aneirin Hughes yn portreadu Carwyn yn ei ddyddiau olaf yn Amsterdam.
Bu farw Carwyn mewn gwesty yn y ddinas ar 10 Ionawr, 1983 yn 54 mlwydd oed ar ôl gyrfa lwyddiannus fel chwaraewr a hyfforddwr rygbi, athro a darlledwr.
Enillodd ddau gap rygbi i Gymru a'r farn gyffredinol yw y byddai wedi ennill mwy oni bai fod Cliff Morgan yn un o'i gyfoedion.
Yr hyfforddwr
Fel hyfforddwr rygbi y disgleiriodd Carwyn yn bennaf, ac mae'n dal i gael ei ystyried yn un o hyfforddwyr rygbi mwyaf llwyddiannus y byd - dros chwarter canrif ar ôl ei farwolaeth.
Bydd y rhaglen yn rhoi portread sy'n ceisio egluro ei bersonoliaeth cymhleth yn ogystal ag adrodd stori gyffrous ei lwyddiannau ar y maes rygbi drwy ddefnydd ffilm archif.
Arweiniodd dîm y Llewod i fuddugoliaeth yn Seland Newydd ym 1971 a Llanelli yn eu concwest fythgofiadwy o'r Crysau Duon yn 1972, ond ni chafodd erioed gyfle i hyfforddi tîm cenedlaethol Cymru.
"Roedd rhai pobl yn dweud ei fod wedi bod yn lwcus yn Seland Newydd oherwydd bod ganddo dîm da, ond fe brofodd ei bwynt yn Strade," meddai Delme Thomas, capten y Scarlets yn y gêm fawr yn erbyn y Crysau Duon.
"Roedd e wedi cael ei wrthod fel hyfforddwr Cymru ac fe wnaeth e brofi ei bwynt mewn ffordd arbennig o dda."
Dyn cymhleth
Roedd llwyddiant Carwyn ym myd 'macho' rygbi yn dod â phris uchel o wewyr a phoen corfforol.
"Nid job o waith oedd rygbi i Carwyn, rygbi oedd ei fywyd ac roedd am i eraill ymuno yn y bywyd hwnnw. Fel chwaraewyr, roeddem yn hapus i ymuno, gan fod Carwyn yn cynnig gymaint i ni," meddai John Dawes, aelod o dîm llwyddiannus y Llewod ym 1971.
Er ei holl lwyddiannau, portreadir Carwyn fel person gyda thensiynau emosiynol, dyn sensitif, unig a chymhleth. Ond drwy'r cyfan mae ei fawredd a'i ddynoliaeth yn disgleirio.
