Ronda
Mae cuisine Ronda wedi ei ddylanwadu'n sylweddol gan ei leoliad mynyddig, ac mae wedi ei sefydlu ar brydau syml ac, wrth gwrs, blasus.
Un o'r prydau poblogaidd hyn yw Migas, sy'n cynnwys briwsion bara, pupur, tomatos, nionod ac wyau wedi eu ffrio, gyda selsig lleol ar ei ben.
Mae stiwiau poblogaidd yn cynnwys conejo a la rondeña (cwningen mewn grefi madarch trwchus), jabali (baedd gwyllt gyda finegr a garlleg) a perdices al estilo de la serrania (stiw petris).
Olew Olewydd
Mae 5 math o olewydden yn cael eu tyfu yn Sbaen, tri ohonynt yn ardal Andalucía:
Picual
mae'n cynhyrchu olew ffrwythus iawn, gydag arogl tebyg iawn i ffigiau sych neu eirin gwlanog. Mae'n addas iawn ar gyfer ffrwythau a phrydau melys, ac mae'n mynd yn dda gyda orennau wedi eu sleisio'n denau. Caiff olew Picual ei gymysgu gyda Hojiblanca yn aml.
Hojiblanca
cynhyrcha olew cain, gyda nawsau melys a chwerw. Mae'n mynd yn wych gydag unrhyw bryd sydd wedi ei ffrio a hefyd mewn gazpacho a marinadau ar gyfer cig a physgod.
Verdial
mae hwn yn dod yn bennaf o ffermydd cydweithredol yn ardal Vélez-Málaga, ac mae'n cynhyrchu olew ffrwythus, eur-wyrdd, gydag arogl ysgafn o almwn. Mae'n addas ar gyfer gazpacho, marinadau a phrydau sydd wedi eu stemio'n ysgafn.
Caws
Mae sawl math o gaws gwahanol i'w ganfod yn nhalaith Andalucía. Mae'r rhan fwyaf wedi ei gynhyrchu gyda chaws gafr, gan fod y geifr wedi ymgartrefu ar y tirwedd mynyddig, sych:
Queso de Cadiz
caws gafr gwyn caled ac ysgafn, gyda blas eithaf siarp. Caiff ei gynhyrchu yn Villaluenga, Ubrique,Setenil, Grazalema, El Bosque ac Alcalá, ac mae'n mynd yn dda gyda gwin rosé.
Queso de Ronda
o Serrania de Ronda - mynyddoedd Ronda. Caws gafr meddal, melyn, sydd weithiau wedi ei gadw mewn olew olewydd. Mae un amrywiaeth lleol - Cabras de Ronda - yn cael ei gynhyrchu gan leianod. Caiff ei adnabod hefyd fel Queso de Málaga.
La Flor de Ronda
caws 'semi-cured' sy'n gymysgedd o laeth buwch a llaeth dafad. Mae'n bosib ei brynu mewn olwynion o 1kg neu fwy. Mae ganddo ansawdd llyfn, cadarn gyda blas cneuog cryf. Er bod patrwm 'gwehyddiad basged' ar y croen brown golau, mae'r caws ei hun yn edrych yn hufennog. Mae'n mynd yn wych gyda port neu Rioja da, ac hefyd gyda phicl fel rhan o ginio 'ploughman'.
Queso Grazalema
llaeth dafad sy'n cymryd ei enw o'r ardal fynyddig i'r gogledd o Cadiz ble mae'n cael ei gynhyrchu. Caiff y caws ei aeddfedu am 5 - 6 mis, ac er ei fod yn gaws caled mae ganddo ansawdd hufennog. Mae braster mochyn Iberaidd yn cael ei rwbio mewn i'r croen yn ystod y broses gyffeithio. Fel Manchego, mae'n gaws graenog gyda blas cryf sydd bron yn gneuog. Nid yw'n hallt iawn felly'n mynd yn ddelfrydol gyda sieri fino sych o Jérez.
Mathau o Sieri
Fino
mae arogl y sieri golau, ysgafn yma'n cael ei greu pan fod flor y burum yn ffurfio ar wyneb y gwin yn y gasgen ac yn gwarchod y gwin rhag ocsideiddio. Mae'n gyffredin iawni arogli almwn. Mae'r cynnwys alcohol fel arfer rhywle rhwng 15.5° a 17°. Caiff fino ei ystyried yn win aperitif, ac mae fersiwn ysgafnach hefyd ar gael, gyda chynnwys alcohol o 15°. Caiff fino ei yfed gyda'r prif bryd yn Andalucía.
Manzanilla
fino golau, ysgafn a sych iawn, a ddaw o Sanlúcar de Barrameda yn unig. Mae'r microhinsawdd sydd i'w ganfod yn yr ardal hon, ger Môr Iwerydd, yn sicrhau fod y flor yn blodeuo trwy gydol y flwyddyn - sy'n golygu bod y gwin yn cael ei amddiffyn rhag y broses ocsideiddio (yn Jerez, dim ond yn ystod y gwanwyn a'r hydref y mae'r flor yn blodeuo). Sych a phersawrus felly yw cymeriad y Manzanilla, gydag elfennau hallt o Fôr Iwerydd.
Amontillado
os gadewir i fino i aeddfedu am ddigon hir yn y soleras clear, llaith, mae'r flor yn marw. Mae'r gwin yna yn ocsideiddio, gan dyfu'n dywyllach ac yn fwy aromatig. Mae gan Amontillado gynnwys alcohol o rhwng 16° a 18°, a gall fod yn sych neu'n "sych-ganolig". Mae ganddo arogl cnau pwerus, fel arfer gyda blas sych sydd bron yn chwerw. Er mwyn cael sieri melys, mae gwinoedd o rawnwin Pedro Ximénez neu Moscatel yn cael eu hychwanegu at Oloroso neu Amontillado.
Oloroso
sieri tywyll, llawn sydd wedi ei ocsideiddio ac aeddfedu oherwydd dirywiad y flor. Mae arogl swmpus, cneuog ganddo gydag elfennau melys. Gall fod yn sych neu'n 'sych-ganolig', ac mae gan y sieri gynnwys alcohol o rhwng 18 a 20 gradd. Mae'n tyfu'n dywyllach gydag oedran.
Hufen Golau (Pale Cream)
fino o rawnwin Palomino, gyda sudd grawnwin cryno wedi ei ychwanegu i sicrhau melyster.
Hufen
caiff y math yma o sieri ei gynhyrchu pan fod grawnwin Pedro Ximénez yn cael eu hychwanegu at Oloroso. Mae'n dywyll ac yn arogli'n felys, gyda lliw mahogani disglair.
Palo Cortado
dim ond mewn niferoedd bach iawn caiff y sieri yma ei gynhyrchu, a gorwedd rhywle rhwng amontillado ac oloroso. Caiff ei heneiddio heb flor, ac mae cynnwys alcohol o rhwng 18° a 20° ganddo. Mae ganddo liw tywyll.
Pedro Ximénez
mae gan y gwin esmwyth melys yma o rawnwin Pedro Ximénez gynnwys alcohol o 17°. Mae ganddo liw tywyll mahogani, a blas cryf o resins.
Selsig
Y chorizo coch a'r morcilla du yw'r amlycaf o selsig yr ardal, ac mae'r pentrefi o amgylch Ronda ac Antequera yn adnabyddus am eu selsig.
Caiff sawl math o selsig eu cynhyrchu yn y pentrefi o amgylch Jaburgo yn nhalaith Huelva hefyd, megis Caña de Lomo, sydd wedi ei lenwi gyda treip a'i fygu; Morcôn, sydd wedi ei wneud o drimins coes las (shin) y mochyn Iberaidd; Selsig Gwyn sy'n cael eu cynhyrchu heb paprika, a selsig pedol sydd wedi eu mygu.
Yn Jaén, y mathau mwyaf poblogaidd o selsig yw'r rhai gwyn sy'n cael eu cynhyrchu gyda chymysgedd o gig eidion a phorc, ynghyd â halen, paprika, garlleg, nytmeg, sieri a sinamon.
Mae un o'r selsig gwaed - morcillas - enwocaf i'w ganfod yn Ronda: y Morcilla Rondeña. Caiff ei wneud gyda gwaed mochyn a braster, ynghyd â phupur, clofau, oregano, paprika, cwmin a coriander.
Mae'r Chorizo ân Monteca Colora (selsig mewn lard wedi ei liwio â paprika), sydd i'w ganfod ym mhentrefi Montejaque a Benaojan yn y Serania de Ronda, hefyd yn ddewis poblogaidd dros ben.