Bwyd Môr
Mae gan bump o wyth rhanbarth Andalucía arfordir, (Almería, Granada a Málaga ger Môr y Canoldir a Cádiz a Huelva ger Môr yr Iwerydd). O ganlyniad, mae'r rhanbarthau arfordirol yma'n adnabyddus am yr amrywiaeth helaeth o fwyd môr sydd ar gael, ac mae'r marchnadoedd pysgod lleol wastad yn symffoni i'r synhwyrau.
Mae bariau tapas, freidurías a cocederos yn arddangos ac yn paratoi dwsinau o wahanol fathau o mariscos (bwyd y môr), a does dim byd gwell gan y trigolion lleol na phicied i mewn i un o'r llefydd yma ac archebu plât o gorgimychiaid a gwydriad neu ddau o Fino!
Mae'r amrywiaeth o bysgod a physgod cregyn yn ddiddiwedd:
- Tiwna asgell las
- Tiwna asgell felen
- Brwyniaid (boquerones)
- Mecryll
- Sardinau
- Cegddu (merluza)
- Sawl math gwahanol o ferfogiaid
- Maelgi
- Lleden (solla)
- Torbwt (rodaballo)
- Llysywen y môr a llysywen noeth / farus (angulia)
Wrth gwrs, mae sawl ffordd i goginio'r pysgod yma, eu ffrio, eu gridyllu a'u gweini gyda saws persli, eu pobi mewn crwst o halen môr, neu eu pobi a'u gweini gyda llysiau a thatws, mae bron iawn popeth yn bosib!