Aneira

Dyddiad Geni: 16.04.1981
Cyfeiriad: Aberdâr
Swydd: Swyddog Cyllid yng Ngholeg Glan Hafren
Disgrifio ei hun: cyfeillgar, hapus, onest
Gwybodaeth Ychwanegol: mae Aneira wrth ei bodd yn cymdeithasu ac mae'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc lle mae hi'n cystadlu ar ran y clwb mewn amryw o gystadlaethau, gan gynnwys coginio, dawnsio a rowlio gwlân. Petai'n gorfod dewis ei hoff rysáit, Tarten Winwns Coch a Chaws Gafr fyddai ar ei bwydlen, a'i hoff gogydd ydi Matt Tebutt. Bwyty Diddier & Stephanie yn Abertawe ydi ei hoff le bwyta a'i gobaith un dydd ydi agor ei chaffi neu fwyty ei hun. Fe ymddangosodd Aneira ar Casa Dudley y llynedd ac ers hynny mae hi'n credu ei bod wedi dysgu llawer, gan ei bod wedi treulio amser yn dysgu mewn ceginau proffesiynol. Mae hi'n un o saith o blant, ac felly mae ganddi brofiad o goginio amryw o fwydydd gwahanol ar gyfer nifer fawr o bobl!
Ffarwelio
Aneira ar y profiad
Pa brofiad sy'n aros yn y cof fwyaf?
Y dasg gynta' ble roedd rhaid i ni goginio rysáit cudd. Daeth y nerfau drosta'i cymaint nes i mi sleisio fy ngwinedd, berwais ddŵr y reis cymaint fel yr aeth dros y ffwrn i gyd ac fe ges i ddarn o arlleg yn fy llygad nes iddynt ddyfrio a bu'n rhaid i Dudley ddod i fy hachub i!
Be ti 'di gael o'r profiad?
Y prif bethau yw cwrdd â chymaint o bobl hyfryd, a rhai dwi'n eu hystyried fel ffrindiau. Dwi hefyd wedi magu mwy o angerdd tuag at goginio a cheisio pethau newydd.
Mewn un/dau air disgrifia'r profiad
Anghredadwy a hwyl.
Aneira yn sôn am y gweddill
Gethin doniol dros ben, cwmni da a deallus, hapus ac yn hollol hyderus yn ei groen - boi grêt!
Hefina cogydd talentog ac yn berson penderfynol iawn, lot o hwyl.
Daniel lot o hwyl, doniol iawn. Mae e'n berson creadigol iawn.
Llŷr grêt, yn ddeallus iawn a dim ofn 'da fe i swnio'i farn. Gawson ni lot o hwyl.
Huw Cyd-Hwntw, ac roedd e'n foi a hanner 'fyd. Roedd Huw â sgiliau arbennig yn y gegin, a lot o straeon gwych 'da fe o'i brofiadau, grêt!!
Sion gŵr bonheddig ac o'm rhan i, y cogydd gorau. Mae Sion bob tro yn meddwl am bobl eraill cyn ei hun, roedd e'n ddoniol iawn ac yn llawer o hwyl. Roedd e'n bleser i gwrdd â dod i nabod Sion.
Wendy menyw neilltuol o neis. Mae Wendy yn modest iawn o ran ei sgiliau coginio, pob her a gyflawnodd hi, fe lwyddodd hi.
Rhaglen 3
Cwestiynau hwyl
Os bydda ti'n cael dewis unrhyw berson yn y byd i fynd am bryd o fwyd hefo nhw, pwy fydda fo/hi a pham?
Dafydd Iwan achos caiff e fy serenadu ar ôl y pwdin!
Os bydda ti'n cael dy roi ar ynys bellennig a dim ond yn cael mynd ac un pryd bwyd hefo chdi, beth fysa fo a pam?
Cawl achos ei fod llawn maeth, lyfli a chysurus.
Argraffiadau cyntaf
Be oedd yn mynd trwy dy feddwl pan ddwedodd Dudley dy fod yn mynd i Sbaen?
Roeddwn i'n ofni y bydden nhw'n dweud eu bod nhw di neud camgymeriad.
Beth oedd dy argraffiadau o'r gwesty, ysgol goginio a'r ardal?
Roedd yr ardal mor brydferth gyda blodau'r haul ym mhob man, ac wedyn pan gyrhaeddon ni'r gwesty a gweld yr ystafelloedd, a'r ysgol goginio, roedd e fel rhywbeth allan o freuddwyd. Fyddwn i erioed wedi gweld lle mor berffaith heb y gystadleuaeth hon.
Rhaglen 2
Ffiled o ddraenog y môr ar wely o ferllys â jamon a saws o gregyn gleision, gwin gwyn a rhosmari
500g cregyn gleision
3 gewyn garlleg
250ml gwin gwyn sych
2 sialóts
4 sbrigyn o rosmari
500ml hufen dwbl
8 merllys
4 darn o ham Serrano
30ml olew olewydd
Menyn
Halen a phupur
Dull:
- Glanhau'r cregyn gleision.
- Torri'r sialóts yn fân a sleisio'r garlleg yn denau.
- Rhoi'r sialóts, garlleg a gwin mewn sosban a'i roi ar wres canolig i uchel.
- Unwaith i'r gwin ddechrau berwi, ychwanegu'r cregyn gleision. Gorchuddio'r sosban a'i ysgwyd bob hyn a hyn. Coginio am ryw 2 funud nes bo'r cregyn gleision wedi agor, yna eu tynnu o'r sosban gan adael gweddill y cynhwysion ar ôl yn y sosban. Unwaith i'r gwin leihau, ychwanegu'r hufen a throi'r gwres i lawr.
- Torri'r ham Serrano fel bod wyth tafell weddol denau gyda chi. Lapio'r ham o gwmpas y merllys (un dafell o ham i un darn o ferllys).
- Toddi ychydig o fenyn mewn padell ffrio ac yna ffrio'r merllys dros wres canolig i uchel am 2 funud bob ochr. Eu tynnu o'r badell a'u rhoi yng nghanol y plât.
- Rhoi'r saws drwy hidlwr, tynnu cig y cregyn cleision o'u cregyn ac ychwanegu nhw i'r saws.
- Rhoi halen ar groen y pysgodyn a rhoi olew mewn padell ffrio ar wres canolig. Unwaith i'r olew gynhesu, ychwanegu'r draenog y môr (croen i lawr) a'i goginio am ryw 2-3 munud nes bod y croen yn troi'n lliw euraidd ac wedi crasu, yna ei droi a choginio'r ochr arall am funud neu ddau.
- Gweini'r draenog y môr (croen i fyny) â'r merllys, ac arllwys y saws dros y cyfan.
Y Feirniadaeth
Dudley
Plât o fwyd glân a syml ac effeithiol dros ben. Roedd y cynhwysion yn cyfuno'n fendigedig.Llinos
Roedd Aneira'n edrych yn hyderus iawn yn y gegin, ac yn amlwg wedi bod yn ymarfer. Ddim yn rysáit rhy gymhleth, ond wedi ei baratoi'n dda, neis iawn.Bryn:
Roedd y saws yn rhy drwchus ac yn rhy hallt i fi.Marc ar gyfartaledd: 8/10
Rhaglen 1
Cregyn Bylchog Mewn Saws Tomato a Gwin
2 domato maint canolig, heb groen a heb hadau
½ winwnsyn
2 ewyn garlleg
1 darn o gig moch
1 llwy de o bersli
1 llwy de o teim
75ml o olew olewydd
2 wydriad o win gwyn sych
¾ pwys cregyn bylchog
halen a phupur
Dull:
- Torri'r winwnsyn yn fân, y cig moch yn giwbiau a sleisio'r garlleg yn denau.
- Rhoi olew mewn sosban a'i roi ar wres canolig.
- Unwaith i'r olew dwymo, ychwanegu'r winwnsyn, cig moch a'r garlleg.
- Tra bod rhain yn meddalu, deisio'r tomatos a thorri'r persli a'r teim yn fân. Ychwanegu at y sosban.
- Ar ôl munud, ychwanegu un gwydriad o win gan ei gymysgu.
- Ychwanegu halen a phupur a'i adael ar y gwres am 5 munud.
- Arllwys un gwydraid o win i sosban arall a'i roi ar wres canolig.
- Tra bo'r gwin yn twymo, golchi'r cregyn bylchog yn lân. Unwaith i'r gwin ddechrau berwi, ychwanegu'r cregyn bylchog.
- Gorchuddio'r sosban a'i ysgwyd nawr ac yn y man. Coginio am ryw 2 funud nes bo'r cregyn i gyd wedi agor.
- Trosglwyddo'r cregyn i fowlen a thywallt y saws drostynt.
- Gweini â bara ffres.