Neidio at y cynnwys

S4C

Cliciwch eich castanetau -
mae 'Casa Dudley' yn dod o Sbaen!!

Mae criw o gogyddion amatur o bob cwr o Gymru yn cystadlu am le yn ysgol goginio Casa Dudley yn ardal Andalucía. Draw yn yr ysgol yn Ronda bydd yr 8 sy'n cyrraedd y brig yn wynebu pob math o sialensiau coginio. Taith emosiynol a chyffrous, a'r wyth yn cael un o brofiadau gastronomig mwyaf anhygoel eu bywydau. Pwy fydd yn dawnsio'r flamenco ac yn trechu'r tarw? Mae'r gwres yn codi unwaith eto yng nghegin 'Casa Dudley'!

Ronda

Ronda yw'r unig ddinas yn y Serrania de Ronda, ardal fynyddog yn nhalaith Málaga.

Mae wedi ei leoli rhyw 100km o ddinas Málaga yng nghymuned ymreolaethol Andalucía, ac mae poblogaeth o tua 35,000.

Mae'r Rio Guadelevín yn rhedeg drwy'r ddinas, gan ei hollti'n ddau a cherfio ceunant El Tajo oddi tanddo.

Bu'r Celtiaid yn drigolion cynnar yn Ronda, ond y Rhufeinwyr a'r Mwriaid a gafodd y dylanwad mwyaf ar ei phensaernïaeth. Yn 1485, fe gymerodd Sbaen Gatholig reolaeth o'r dref.

Mae tair pont yn ymestyn ar draws El Tajo:

  • Puente Romano - Y Bont Rhufeinig, neu Puente San Miguel
  • Puente Viejo - Yr Hen Bont, neu Pont yr Arab (Puente Arabe)
  • Puente Nuevo - Y Bont Newydd.

Cafodd y Bont Newydd ei chwblhau yn 1793. Hon yw'r dalaf o'r tair pont, ac mae'n sefyll 120m uwchlaw llawr y ceunant. Fe gwympodd y pensaer i'w farwolaeth oddi ar y bont - yn ôl y son, roedd yn ceisio dal ei het, a oedd wedi cael ei dal gan y gwynt.

Mae sawl person arall hefyd wedi disgyn oddi ar y bont, fel arfer wedi iddynt gael eu chwythu oddi arno.

Safle pwysig arall yw'r Plaza de Toros, un o gylchoedd teirw hynaf Sbaen. Adeiladwyd yn 1785 gan yr un pensaer a oedd yn gyfrifol am y Puente Nuevo, José Martin de Aldehuela.

Fe fu Orson Welles ac Ernest Hemingway - y ddau ohonynt yn hoff iawn o ymladd teirw - yn ymwelwyr cyson i Ronda. Mae cylch tarw Ronda yn cael ei grybwyll yn un o lyfrau Hemingway, 'Death in the Afternoon'.

Mae un arall o lyfrau Hemingway, 'For Whom the Bell Tolls', yn disgrifio llofruddiad cenedlaetholwyr wrth iddynt gael eu taflu oddi ar y clogwyni, mewn i'r ceunant, yn ystod y Rhyfel Cartref Sbaenaidd. Mae'n debygol bod hyn wedi ei selio ar ddigwyddiadau yn Ronda.

Bob mis Medi mae trigolion Ronda'n gwisgo i fyny mewn gwisgoedd ymladd teirw'r 18fed a'r 19eg ganrif (fel y maent yn ymddangos mewn nifer o luniau'r artist Sbaenaidd Fransico Goya) ar gyfer y "Feria Goyesca de Pedro Romero", i ddathlu'r matador enwog a oedd yn gyfrifol am yr arddull fodern o ymladd teirw.



Cortijo Salinas

Cafwyd croeso twymgalon ar aelwyd Isabelle a'i theulu yn Cortijo Salinas. Ac eleni, yn wahanol i'r ddwy flynedd flaenorol roedd yr 8 yn aros, coginio a chystadlu dan yr un to! Roedd lleoliad y gwesty'n anhygoel a'r olygfa'n odidog. Os hoffech weld mwy o'r lleoliad bendigedig ewch draw i wefan www.cortijosalinas.es



Alwen a'r Wobr

Alwen McConochie - 2007 WinnerGan fod cynifer o ysgolion coginio penigamp ar hyd a lled Prydain, y penderfyniad eleni oedd rhoi'r dewis i enillydd Casa Dudley.

Dewis Alwen McConochie, enillydd Casa Dudley 2007, oedd Le Manoir aux Quat' Saisons yn Rhydychen, a chafodd brofiad bythgofiadwy.

Roedd e'n brofiad ffantastig, dwi wedi dysgu llawer iawn am reolau coginio a chael dangos sut mae gwneud y cyfan o'r dechrau. Roedd pwyslais enfawr ar fwyta bwyd lleol a gwneud yn siŵr fod y cynhwysion o'r ansawdd gorau, llawer o dipiau ar sut i dorri lawr ar y gwaith ac amser coginio yn y gegin - lot fawr o dipiau!

Beth oedd dy argraffiadau o Le Manoir?

Lleoliad bendigedig, ystafelloedd moethus dros ben, pawb yn ffeind iawn ac yn mynd allan o'u ffordd i sicrhau eich bod yn cael amser da. Ro'n i'n ffodus iawn i gwrdd â Raymond [Blanc] - neu RB fel mae pawb yn ei alw - ac roedd e'n gyfeillgar dros ben. Roedd y gwersi coginio yn arbennig, nefoedd cael siarad am fwyd a blasu trwy'r dydd ond ddim wedi gwneud dim lles i'r diet!! Ro'n i'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y noson olaf i gael swper arbennig 10 cwrs a hefyd roedd Huw'r gŵr yn ymuno â fi. Fydden ni byth yn meddwl basen i'n dweud 'mod i wedi cael digon ar fwyta mas, wir yr! Ar ôl dod adre roedd hi'n neis cael jest ffrwyth, doedd dim lle i ddim byd arall!

Wyt ti wedi bod yn gwneud mwy efo dy goginio ers Casa Dudley?

Ers y rhaglen dwi wedi cael cyfle i wneud llawer o arddangosfeydd i godi arian ar gyfer: ysgol y plant; Merched y Wawr; Women's Food and Farming; Sioe Llanbed; Gŵyl Fwyd y Fenni a llawer mwy i ddod dros y misoedd nesa.

Ydi dy goginio di wedi newid o gwbl ers bod ar y gyfres ac yn Le Manoir?

Ers bod yn Le Manoir mae fy nghoginio wedi newid llawer, dwi wastad yn addasu ryseitiau. Ar ôl y rhaglen dwi'n teimlo 'mod i'n llawer mwy hyderus yn y gegin, a mwy eto ers bod yn Le Manoir oherwydd hyfforddiant. Dwi'n teimlo'n llawer mwy trefnus yn y gegin a ddim mor anniben chwaith ar ôl gweithio mewn cegin mwy a llawer mwy taclus. Credwch fi, mae Huw'r gŵr yn meddwl hynny hefyd, sy'n dweud lot!

Os basa rhywun yn meddwl cystadlu ond ddim yn saff be i neud - be fasa ti'n ddeud?

Ewch amdani!! Dim i golli ond lot i ennill. Hyfryd oedd cael y cyfle i fwynhau a dod i nabod llawer o ffrindiau newydd â'r un diddordeb. Roedd cael mynd i'r Eidal yn brofiad gwych. Roedd yr ardal yn brydferth iawn, bwyd da, haul braf, Dudley, ffrindiau a llawer o sbort. Faint mwy o berswâd sydd eisiau arnoch chi?

Am fwy o wybodaeth: www.manoir.com

* *

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales