Neidio at y cynnwys

S4C

Dosbarthiadau Meistri

Churros (toesenni Sbaenaidd) gyda Mousse Siocled

Cynhwysion
200ml dŵr
6g halen
6g siwgr
60g menyn di-halen
120g blawd cryf
2-3 ŵy
Olew llysiau i ffrio dwfn

Ar gyfer y toes Choux:

  1. Dod â'r dŵr, menyn, halen a siwgr i'r berw cyn ychwanegu'r blawd gyda hidlwr a'i gymysgu'n dda gan barhau i'w goginio am ryw 5 munud, nes bod y gymysgedd wedi tewhau.
  2. Rhoi'r cyfan mewn powlen fawr a'i gymysgu'n dda, gan ychwanegu'r wyau un ar y tro.
  3. Gosod y toes mewn bag peipio a pheipio'r gymysgedd mewn i beli maint 10 ceiniog yn syth mewn i badell ffrio ddofn. Ffrio am oddeutu 2 funud yr un, hyd nes eu bod yn troi'n lliw euraidd, cyn eu gosod i oeri ar resel wifr.
Cynhwysion
100g melynwy
50g ŵy
165g siocled tywyll 70%
250g hufen chwipio
90g siwgr

Ar gyfer y mws siocled:

  1. Meddalu'r siocled yn araf mewn powlen, dros sosban o ddŵr berw.
  2. Chwisgo'r wyau, melynwy a'r siwgr mewn powlen dros ddŵr poeth (bain marie) nes bod y gymysgedd yn olau ac yn ysgafn iawn, sabayon yw enw'r gymysgedd orffenedig ewynnog yma.
  3. Chwisgio'r hufen nes ei fod wedi tewhau, cyn ei blethu'n ofalus gyda'r sabayon. Yna, plethu'r siocled gyda'r cymysgedd sabayon hufennog a gosod y cwbl mewn bag peipio glân a llenwi canol y peli churros.

Paëla Porc a Chyw Iâr

Cynhwysion
1 llwy fwrdd olew olewydd
675g o gyw iâr wedi'i dorri'n giwbiau
100g o borc neu gwningen wedi'i dorri'n giwbiau
1 winwnsyn wedi'i dorri'n giwbiau
3 gewyn o arlleg wedi'u torri'n fân
1 pupur coch wedi'i dorri'n giwbiau
1 pupur gwyrdd wedi'i dorri'n giwbiau
350g o reis paëla, Bomba yn ddelfrydol
450ml o stoc cyw iâr
Pinsied dda o saffrwm wedi'i socian mewn llwy fwrdd o ddŵr
4 tomato ffres - heb y croen ac wedi'u torri'n giwbiau
Halen a phupur
½ lemwn

Dull:

  1. Cynhesu'r olew mewn padell ffrio fawr / padell paëla a choginio'r cyw iâr a'r porc neu gwningen hyd nes yn troi'n lliw euraidd ac wedi coginio trwyddo. Tynnu nhw allan o'r badell a'u rhoi i un ochr.
  2. Yn yr un badell, ffrio'r winwns, garlleg, pupur coch a gwyrdd am ddau funud.
  3. Ychwanegu'r reis i'r badell a'i goginio am ryw ddwy funud cyn ychwanegu'r stoc a'r saffrwm. Mudferwi'r cyfan am 20 munud.
  4. Pan fydd y reis wedi dechrau meddalu, ac am y pum munud olaf o goginio, rhoi'r cig a'r tomatoes yn ôl yn y badell a'i gynhesu trwyddo.

Salad Ystifflog, Ffacbys, Chorizo, ac Artisiogau Bychan

Cynhwysion
1 ystifflog mawr
2 artisiog bychan
50g chorizo
20g ffacbys wedi eu coginio
20ml sieri
30g dail salad
1 lemwn
Halen a phupur
Cennin syfi wedi eu torri'n fân
Olew olewydd

Dull:

  1. Glanhau a sychu'r ystifflog, a'i dorri mewn i stribedi hir.
  2. Deisio'r chorizo a'i goginio ar wres ysgafn, hyd nes ei fod wedi crasu, a rhowch i un ochr.
  3. Draenio'r ffacbys a haneru'r artisiogau.
  4. Sesno'r ystifflog gyda halen a phupur cyn ei ysgeintio ag ychydig o olew.
  5. Cymysgu'r ffacbys, chorizo a'r artisiogau mewn powlen ac yna ychwanegu ychydig o'r olew chorizo cyn ei gymysgu'n dda.
  6. Cynhesu padell ffrio, heb olew, hyd nes ei fod yn boeth iawn, yna ychwanegu'r ystifflog a'i goginio am 30 eiliad, neu hyd nes ei fod yn barod. Pan yn barod, ychwanegu'r sieri ac yna'r sudd lemwn cyn ei arllwys dros y chorizo a'r llysiau.
  7. Cymysgu'n dda, ychwanegu'r dail salad a'i weini mewn powlen.

Paratoi'r ystifflog:

  1. Rinsio'r ystifflog. Tynnu'r pen i ffwrdd o'r corff, fe ddylai tu mewn yr ystifflog ddod allan yr un pryd.
  2. Torri'r tentacl bwytadwy o'r pen a gwasgu'r pig allan a'i waredu. Tynnu a gwaredu'r darn tryloyw neu'r asgwrn cefn o'r corff.
  3. Glanhau unrhyw groen ychwanegol o'r corff, ei rinsio mewn dŵr oer a thynnu'r croen allanol.
  4. Torri'r corff yn dair rhan. Sgorio pob darn yn groeslin un ffordd ac yna'n ddirgroes i greu patrwm deimwnt. Ei droi a gwneud yr un peth yr ochr arall.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales