Llysiau
Berenjenas - Ffriterau Wylys gyda Mêl
Cynhwysion2 wylys
1 cwpan blawd plaen
1 llwy fwrdd o fêl (dibynnol ar eich blas)
Halen a phupur
Olew er mwyn ffrio dwfn
1 cwpan blawd plaen
1 llwy fwrdd o fêl (dibynnol ar eich blas)
Halen a phupur
Olew er mwyn ffrio dwfn
Dull:
- Cynhesu'r olew mewn sosban ddofn.
- Cymysgu'r blawd, halen a'r pupur ar blât.
- Sleisio'r wylys a'u gorchuddio yn y blawd sydd wedi sesno.
- Ffrio'r wylys yn yr olew hyd nes eu bod yn crasu ac yn troi'n lliw euraidd.
- Gosod nhw ar blât a diferu'r mêl yn ysgafn dros y cyfan. Eu bwyta yn syth!
Tortilla
Cynhwysion
80ml olew olewydd
1 winwnsyn wedi ei sleisio'n fân
1 gewyn garlleg wedi ei falu'n fân
Halen a phupur du
1kg o datws heb eu croen, wedi eu haneru a'u sleisio’n denau
8 ŵy wedi eu curo mewn powlen fawr
80ml olew olewydd
1 winwnsyn wedi ei sleisio'n fân
1 gewyn garlleg wedi ei falu'n fân
Halen a phupur du
1kg o datws heb eu croen, wedi eu haneru a'u sleisio’n denau
8 ŵy wedi eu curo mewn powlen fawr
Dull:
- Mewn padell ddofn, cynhesu'r olew.
- Ffrio'r winwns a'r garlleg yn yr olew hyd nes yn feddal.
- Ychwanegu'r tatws, halen a phupur. Gorchuddio'r badell a choginio'r cyfan am tua 15 munud gan ei droi'n aml fel bo'r tatws ddim yn glynu i waelod y badell.
- Pan fo'r tatws bron a bod yn barod, eu harllwys i'r gymysgedd wyau a'i gymysgu'n dda.
- Ychwanegu llwy fwrdd o olew i'r badell a dychwelyd y tatws a'r ŵy i'r badell.
- Dros wres cymedrol coginio'r cyfan am 10 munud gan wneud yn siŵr nad yw'r gymysgedd yn llosgi.
- Rhoi'r badell o dan y gril neu yn y ffwrn am tua 7 munud i orffen y coginio.
- * Cofiwch - fe fydd y tortilla yn parhau i goginio tra ei fod yn oeri.