Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad 2009

Barn yr Arbenigwr

Gwyn Jones 26 Chwefror 2009

Rwy wedi treulio oriau di-ri yn dadansoddi tapiau o gemau Ffrainc er mwyn ceisio deall y ffordd mae hyfforddwr eu tîm cenedlaethol yn meddwl. Rwy wedi ceisio gweithio allan sut mae e eisiau i Ffrainc chwarae, ac roeddwn i'n gobeithio, trwy astudio'r fideo am oriau, y gallen i adnabod patrymau'r chwarae. Rwyf wedi ceisio adnabod y chwaraewyr allweddol a sut maen nhw'n cael eu tynnu i mewn i'r gêm o'r sgarmes, y llinell a'r ail ddechrau. Ac ar ôl oriau o waith, roeddwn i'n gobeithio deall meddwl Marc Lièvremont.

Wel, dylen i fod wedi gwybod yn well. Mae ceisio darganfod athroniaeth gydlynol ym meddwl hyfforddwr rygbi Ffrengig, y nesa peth at amhosibl. Gweithiais i fel seiciatrydd am ddwy flynedd ac rwy'n hen gyfarwydd â meddwl ffiniol ac ymddygiad rhyfedd ond rwy'n bell o ddeall myfyrdodau mewnol prif hyfforddwr Ffrainc.

Benouit Baby fel rhif 10 yw'r dewis mwyaf diddorol, am ei fod yn wrthgyferbyniad llwyr i Beauxis. Canolwr yw Baby fwyaf, felly rhedeg fydd ei reddf, yn enwedig o dan bwysau. Bydd chwarae mewn safle anghyfarwydd o flaen torf cartref disgwylgar yn ddigon o bwysau ynddo'i hun, ond bydd e hefyd yn wynebu amddiffyn tanbaid Cymru. Fydd e erioed wedi profi hyn yn y safle hwn, gan mai prin yw'r timau Ffrengig sy'n defnyddio'r dacteg hon.

Bydd Cymru'n siŵr o frysio Baby i greu gwallau a bydd e'n troi i ffwrdd o'i reng ôl ar yr ochr dywyll wrth fod y don amddiffynnol yn torri. Efallai bydd e'n ceisio cicio'i ffordd allan o drwbl, ond dyw hynny ddim yn beth rhwydd i'w wneud, achos er bod llawer o'r cyfnewid peli ping pong rydyn ni'n ei weld yn y gêm fodern yn edrych fel cicio dibwrpas lawr y maes, mae 'na strategaeth drefnus y tu cefn iddo. Wir yr!

Mae dewis y cawr Mathieu Bastareaud yng nghanol y cae yn edrych fel ymgais Ffrainc i ddatrys y cwestiwn o beth i'w wneud am Jamie Roberts. Tawelwyd rywfaint ar Roberts gan Worsley yn erbyn Lloegr ac efallai fod Liévremont yn ceisio cyflwyno nerth i ganol y cae. Gall fod Basteraud yn cael ei sefydlu fel gwibhanerwr i ganiatáu i Baby symud i'w safle arferol fel canolwr.

On'd yw hi'n braf i weld timau eraill yn newid eu cynllun chwarae neu hyd yn oed y timau er mwyn ceisio arbed Cymru rhag chwarae eu gêm? Mae'n glod anferth i'r garfan hon fod eu cyd-gystadleuwyr yn estyn cymaint o barch iddyn nhw. Eto, ddylai Cymru ddim â derbyn gorchmyion gan neb. Mae'n rhan o gynllun ein gwrthwynebwyr i wneud i Gymru newid, a dylen ni ddim ag ildio i'r ymdrechion yma i'n symud ni o'r gêm sy'n gweithio i ni dim ond achos fod y tîm rydyn ni'n ei wynebu wedi paratoi ar ein cyfer ni.

Mae Gatland yn teimlo'n hyderus, ac felly hefyd y tîm, fydd ddim yn ildio heb frwydr i guro pob brwydr. Ar ben hynny, rwy'n meddwl y gwelwn ni grebwyll a chyfrwystra yn yr ymosod, ond ar ein telerau ni yn unig.

Dydw i erioed wedi teimlo mor hyderus y gall Cymru ennill ym Mharis. Bydd angen ein perfformiad gorau tan nawr er mwyn gwneud hynny, ond mae gan y tîm hwn gymaint yn fwy i'w gynnig. Gall y Ffrancwyr mympwyol roi un o'r perfformiadau syfrdanol rheiny maen nhw'n tueddu i'w cadw i guro Seland Newydd yng Nghwpan y Byd. Os gwnân nhw hynny, da iawn nhw. Ond bydd angen iddyn nhw berfformio ar y lefel honno i atal Cymru rhag gadael Paris yn fuddugol nos Wener.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales