Cynan
Cofio'r Archdderwydd amryddawn, Cynan mewn ffilm o 1969, gyda Lisa Gwilym.
Dyn cyhoeddus oedd Albert Evans-Jones yn bregethwr, darlithydd, bardd a dramodydd ond cawn gipolwg personol i'w fywyd yn ei gartref ym Mhorthaethwy.
Roedd ganddo ddawn coginio, hyd yn oed, fel mae'n dangos wrth baratoi bwyd ar gyfer ei wraig Menna. Yn Archdderwydd dwywaith, roedd Cynan yn ffigwr amlwg yn hanes yr Eisteddfod Genedlaethol ond yng nghwmni ei deulu a'i ffrindiau cawn weld ochr arall o fywyd y dyn amlochrog ei ddiddordebau yn ei gynefin ar lan y Fenai.