Cofio Dinas
Cofio ffenomena'r gyfres Dinas
Fe fydd y gyfres Cofio yn bwrw golwg yn ôl ar un o gyfresi drama mwyaf poblogaidd S4C ym mlynyddoedd cynnar y Sianel - y gyfres sebon eiconig honno, Dinas.
Yn y rhaglen awr o hyd nos Iau, 12 Ionawr, bydd Lisa Gwilym yn ail-fyw'r gyfres a oedd yn dilyn hynt a helynt nifer o deuluoedd busnes dychmygol yng Nghaerdydd rhwng 1985 a 1991.
Dros 400 o benodau cofiadwy, fe ddaeth cymeriadau fel Paul, Helen a Miriam Ambrose, ei chariad Elwyn Scourfield, Robin a Ruth Gregory, Alan Martin a'u tebyg yn enwau cyfarwydd ar wefusau gwylwyr y Sianel.
Fe welodd gwylwyr y Sianel glitz, glamour, cyfoeth, pŵer a ffasiwn nad oedden nhw wedi eu gweld erioed o'r blaen ar deledu Cymraeg.
Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfoeth o glipiau ffilm o'r gyfres a gynhyrchwyd gan gwmni ITV Cymru ac mae cyfweliadau difyr gydag aelodau'r cast a'r tîm cynhyrchu.
Ymhlith yr actorion sy'n cael eu cyfweld mae Geoff Morgan, Eiry Palfrey, Donna Edwards, Christine Pritchard, Wynford Ellis Owen, Simon Fisher, Ian Saynor a Mair Rowlands.
Roedd y gyfres yn adlewyrchu newidiadau cyffrous yn y brifddinas wrth i ardal y Bae ddatblygu o ffenics yr hen borthladd diwydiannol.
"Lawr yn nociau Penarth y dechreuodd y cyfan," meddai'r cynhyrchydd Graham Jones. "Roedd yna gannoedd o aceri o dir yn segur yma. Roeddwn ni'n gweld bod yna botensial i Gaerdydd ddatblygu fel dinas, felly roedd yna gynfas ar gyfer y ddrama."
Roedd Dinas yn torri tir newydd yn yr iaith Gymraeg, gan fod y rhan fwyaf o gyfresi drama teledu a fu gynt wedi'u lleoli mewn ardaloedd gwledig.
Doedd actorion fel Geoff Morgan (Paul Ambrose) a Donna Edwards (Miriam Ambrose) erioed wedi actio yn Gymraeg ac roedd y cynhyrchwyr am gymryd 'risg' yn eu castio achos bod nhw'n 'siwtio'r Caerdydd' yr oeddent am ei chyfleu.
Meddai Geoff Morgan, sydd bellach yn diwtor dysgu Cymraeg i Oedolion yn y brifddinas, "Roeddwn i'n byw yn Llundain ac yn gweithio fel actor yn y West End pan benderfynais i fynd ar gwrs Wlpan Dysgu Cymraeg yn Llambed ac fe newidiodd bopeth dros nos. Fe ges i ran yn Pobol y Cwm ac fe welodd Graham Jones fi ar y rhaglen ac fe ges i wahoddiad i ddod i lawr i Gaerdydd i gael darllen am ran yn Dinas.
"Roeddwn i'n dal yn cael gwersi ar ôl dechrau ar Dinas yng Nghlwb Ifor Bach gyda'r tiwtor iaith Gwilym Roberts achos roeddwn yna eiriau hir yn y sgript fel 'llwgrwobrwyo' a oedd yn anodd iawn i mi."
Mae'r cast yn hel atgofion am dreulio oriau yn yr ystafell goluro yn cael y 'make-up' a'r dillad yn iawn.
Roedd y themâu yn feiddgar yn aml hefyd - gydag affêrs Paul Ambrose, y twyllo a'r cynllwynio busnes yn Ambrose International ac Atalntic House yn tynnu sylw a chipio penawdau.
Roedd portread gafaelgar Donna Edwards o'r rebel o ferch yn gofiadwy ac na allwn anghofio bod Wynford Ellis Owen yn actio'r alcoholig Robin Gregory pan oedd yr actor ei hun hefyd â phroblemau yfed dybryd.
A phwy all anghofio'r cydymdeimlad gan y cyhoedd pan gafodd Paul Ambrose ei garcharu am dwyll? Dim ond ar Dinas…
Bydd S4C hefyd yn dangos pennod archif o'r gyfres Dinas yr un noson am 21:30.