Neidio at y cynnwys

S4C

Crwydro Cymru

Chwilgig: Digwyddiadau '10

Am benwythnos bob blwyddyn bydd pentref tawel Chwilog ger Pwllheli yn dathlu mewn gŵyl o gerddoriaeth a gweithgareddau o'r enw Chwilgig.

Eleni mae S4C yng nghanol y cyfan am y tro cyntaf, ac yn y rhaglen mae Elin Fflur a Morgan Jones yn cyflwyno blas ar bob agwedd o'r ŵyl.

Cynhaliwyd yr ŵyl dros benwythnos Gŵyl y Banc gan ddechrau gyda chyngerdd arbennig yn y Neuadd Bentref. Yn perfformio roedd y tenor Trebor Edwards, Côr Dre o Gaernarfon a'r gantores leol Anni Llŷn.

I ddilyn cafwyd tair noson o gigs a diddanwch yn Nhafarn y Madryn. Ymhlith y bandiau fu'n perfformio roedd Hufen Iâ Poeth, Meinir Gwilym, Meic Stevens a'r Band, Moniars, Derwyddon Dr Gonzo, Masters in France, Bryn Fôn a'r Band, Ail Symudiad, Gwibdaith Hen Frân a Dafydd Iwan a'r Band.

Roedd dydd Sul yn ddiwrnod i'r teulu gyda gemau, cystadleuaeth Chwilffactor i blant dan 16 oed a cherddoriaeth gyda Gwyneth Glyn. Uchafbwynt y prynhawn oedd Seremoni Cadeirio'r Chwilfardd, sef y wobr am gyfansoddi'r gerdd orau ar y testun Chwilgig.

Meddai Aled Davies, un o'r 'Chwildrefnwyr', sef trefnwyr yr ŵyl, "Hon yw'r drydedd flwyddyn i ni gynnal yr ŵyl. Mae grŵp o bump ohonom yn trefnu, ond mae'r gefnogaeth leol yn wych gyda nifer fawr o wirfoddolwyr yn helpu.

"Bwriad sefydlu'r ŵyl oedd creu rhywbeth fyddai'n rhan o fywyd y pentref, a hefyd yn rhoi hwb i'r sin gerddoriaeth leol. Roedden ni'n teimlo fod digwyddiad fel hyn yn rhywbeth oedd ar goll o fywyd y pentref ers blynyddoedd ac mae'n gyffrous iawn bod S4C wedi dod i ffilmio'r digwyddiad eleni."

Meddai Medwyn Parri, Pennaeth Digwyddiadau a Theledu Achlysur S4C, "Mae S4C yn falch iawn o gael bod yn rhan o'r ŵyl eleni. Mae'r ŵyl wedi llwyddo i greu cyffro a dal dychymyg y gymuned drwy ddod â sîn gerddoriaeth gyffrous i'r ardal."

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales