



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Oedd canu hefo Tony yn gyfnod cyffrous?
Cyffrous a newydd. Doedd dim canu pop Cymraeg ar y pryd felly pobol fel Elvis Presley oedd yn dylanwadu arnom ni. Roedd yna grwpiau yn codi ym mhob pentref gyda noson lawen ym mhob tref. Dwi’n siŵr ein bod ni wedi canu ym mhob festri a chwt sinc o Gaergybi i Gaerdydd! Roedden ni’n anhygoel o brysur ar rai adegau. Dwi’n meddwl i ni wahanu gan ein bod ni wedi gwneud pob dim oedd yn bosibl yng Nghymru, doedd yna ddim byd arall i wneud.
O ble ddaeth eich steil chi ar y llwyfan?
Mae’n debyg gen i na phan es i draw i Loegr i weithio y dechreuais i wisgo go iawn. Roedd gennym ni reolwr a fyddai pob amser yn dweud, “You’re only as good as you look”, a pha mor bwysig oedd first impressions. Pan es i ganu i Loegr doeddwn i’n neb, ond rhyw berson arall oedd yn mynd ar lwyfan i ganu, wedyn roedd yr argraff yn bwysicach.
Am faint fuoch chi’n gweithio dramor?
Mi fues i’n gweithio dramor am tua wyth mlynedd. Weithiau, roedd y cyfnod mor fyr â mis mewn gwlad neu ar long, ond chwech mis oedd y cyfnod hiraf a hynny ar long nôl a blaen o Dubai i Abu Dhabi. Roeddwn i’n gweithio yn Miami am sbel, ac roedd y tywydd yn ardderchog yno felly roedd y wisg yn wahanol, dim cymaint o’r dillad llaes wedi eu cau fyny a’r breichiau hir.
Ydych chi wedi cadw nifer o’ch gwisgoedd dros y blynyddoedd?
Ar gyfer y rhaglen hon fe es i lawr i’r seler a nôl trwnc mawr. Mae hi’n llawn o ffrogiau o’r 1970au a’r 80au. Maen nhw’n edrych yn hen ffasiwn bellach ond dwi’n siŵr y medrwn i fynd fewn i ambell un rŵan. Roedd hi’n neis eu gweld nhw eto ac mae gan bob un ei stori i’w ddweud.
Wnaeth eich steil chi newid o gwbl?
Pan ddaeth Tony a finnau yn ôl at ein gilydd i ganu yn 1984, fe ddes i a’n ffrogiau llaes hefo fi hefo’r sequins a’r gwisgo fyny, roeddwn i wedi cael blas wedyn. Y broblem wedyn oedd trio cael Tony mewn i siwt a ‘dici-bô’ a phethau felly. Ond mi gytunodd yn y diwedd.
Beth yw hanes y ffrogiau melyn a phinc yma?
Fe ges i rhain ar gyfer gwneud y Summer Season hefo Tony O’Connor, roedd yn rhaid gwisgo’r ‘part’. Dim y fi oedd y cyntaf i wisgo’r ffrog felen er mai fi dalodd amdani. Roedd yna ferch ifanc o’r enw Jackie Scott oedd newydd ennill rhaglen dalent ar y teledu, ‘Rising Star’, hefo’r un manager a mi, ac roedd cylchgrawn y ‘Stage’, oedd yn beth mawr ar y pryd, eisiau gwneud erthygl amdanom ni gyd. Doedd gan Jackie ddim i’w wisgo felly fe gaeth fenthyg y ffrog yma gen i. Mae Jackie bellach wedi mynd ymlaen i wneud musicals mawr yn Llundain ac fe briododd hefo Keith Harris a’r hwyaden werdd! Fe ddaeth y ffrog binc i mewn yn handi pan ddaeth Tony a finnau yn ôl at ein gilydd i ganu, ac fe wisgais i hon ar y rhaglen gyntaf o ‘Taro Tant’. Roedd hi’n handi iawn pan oeddwn i’n gweithio i ffwrdd hefyd mewn llefydd fel Dubai ac Abu Dhabi gan fod y top yn cyfro’r breichiau.
Beth yw’r hanes tu ôl i’r ffrog aur?
Mae hon tipyn bach ‘over the top’ hyd yn oed i mi! Fe ges i hon ar gyfer noson arbennig iawn. Doedd Tony a finnau erioed wedi canu hefo cerddorfa ac fe gawsom ni’n gwadd i ganu yn Neuadd Penrhyn ym Mangor hefo cerddorfa’r BBC. A hon oedd y ffrog, er fedrwn i ddim ei gwisgo hi’n hir mae hi mor drwm!
O ble ddaeth y ffrog flodeuog yma?
Tony ddewisodd hon mewn rhyw siop yn rhywle. Roedden ni’n gwneud cyfres deledu ar gyfer HTV ar y pryd, ac roedd Tony wedi cyfieithu cân, ‘The Rose’. Efallai ei fod o’n meddwl mod i yn edrych fel rhosyn yn y ffrog yma!
Beth yw hanes y siaced goch?
Dwi’n dal i wisgo hon. Fe brynais i hi ar gyfer y rhaglen, ‘Diolch i Ti’. Roedd pawb ar y rhaglen yn canu cân o waith Tony oedd yn deyrnged bendigedig iddo. Fe dynnodd rhywun luniau ar y noson ac fe benderfynon ni gadw’r llun a’i roi o ar glawr yn CD wnaethom ni yn 1999 ar gyfer y mileniwm.
Mae’n job llechio’r dillad, mae yna stori tu ôl i bob un ohonyn nhw, ond efallai rŵan fod hyn i gyd lawr ar dâp y medra i eu rhoi nhw i gyd yn y sgip! Er dwi ddim yn meddwl y bydd hynny’n digwydd chwaith…
- CWPWRDD DILLAD