



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
O lechweddi Blaenau Ffestiniog i bartïon llawn selebs yn Llundain - mae ymddangosiad yr hogyn o Eryri ar raglen deledu Big Brother wedi newid ei fyd yn gyfan gwbl - a chael cryn ddylanwad ar ei steil hefyd.
Be oedd dy steil di pan oeddet ti'n byw nôl ym Mlaenau Ffestiniog, cyn i ti ymddangos ar rhaglen Big Brother?
Ti'n gwbod ma gen ti fatha'r 'cool club' ag un 'geek', wel y boi yne o'n i! Rhan fwya' o'r amser, am fy mod yn y chweched, gwisg ysgol oddan ni'n gwisgo. O'n i'n brif fachgen ar y pryd ac yn y fforwm blwyddyn felly roedd rhaid gwisgo'r bathodynau i ddangos hynny. Oddat ti'n brif ferch ferch hefyd doeddet? Ma'n gyfrifoldeb! Y dillad arall o'n i'n wisgo oedd y 'hand me downs' gan David, fy nghefnder – ac oedd ei ddillad o'n rili trendi, so o'n i wrth fy modd pryd oedd ei ddillad o'n mynd yn rhy fach iddo fo achos o'n i'n cael gwisgo nhw wedyn.
Y crys yma wnes i wisgo am yr audition achos o'n i'n meddwl fydda fo'n sefyll allan – ac o'n i di rowlio'r llewis i fyny'n uchel ac wedi teithio i Lundain am y tro cyntaf. Nath 'na rhywun fy nghamgymeryd i am 'rent boy' – ond odd rhaid edrych yn secsi am yr audition hefo'r crys ar agor a'r llewys i gyd i fyny!
Hwn oedd y crys y gwnes i ei wisgo am y lluniau 'to evict Glyn...' o'n i'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael elfen o Gymreictod yn y tŷ a'i ddangos drwy fy nillad hefyd.
Faint o ddylanwad oedd y cymeriadau cryf eraill yn y tŷ ar dy steil di?
Yn amlwg oedd gena ti Mikey, Cesar, Grace ac Imogen oedd i gyd wedi modelu o'r blaen. Oedden nhw i gyd wedi bod allan ar y sîn yn Llundain ac yn gwybod be oedd y dillad gorau i wisgo. O'n i fatha country bumpkin iddyn nhw – mond allan yn Llanrwst o'n i di bod! Oddan nhw'n ddylanwad mawr ar sut nes i dyfu fyny a darganfod steil. Fel, nhw ddangosodd i mi sut i ripio jîns yn y gwaelod a petha felly.
Da ni 'di gweld y dillad oeddat ti'n gwisgo cyn Big Brother – ond sut mae dy steil wedi newid erbyn hyn?
Wel mae fy steil wedi newid cryn dipyn. Ond pan ti'n mynd allan i lefydd rownd Gwynedd mae'n hollol wahanol i'r steil sydd yn Llundan – ma' Llundan yn fwy 'upper class'. Rhaid fi watsiad be dwi'n ddeud rwan – ond dwi'n gorffod gwisgo'n fwy posh a swanky pan dwi'n mynd i Lundain, er enghraifft, os dwi'n mynd i barti OK magazine. Mae o fatha rhyw melting pot o celebrities a 'dan ni gyd yn actio fel bo' pawb yn ffrindia' ond dydan ni ddim rili! Pan dwi'n mynd i barti fel 'na, fel arfer dwi'n gwisgo crys gwyn 'swn i'n wisgo o dan tuxedo a dwi'n ei wisgo fo dan siaced ddu a'i adael ar agor – fel James Bond! Wedyn ma genna fi'r got yma ac fe wnes i wisgo hon ar gyfer yr amser pan on i'n helpu cynhyrchwyr Big Brother i ddewis pwy oedd yn mynd i fewn i'r tŷ ar gyfer Big Brother 9. Dwi 'di trio dewis freaks, fel ei fod yn mynd i fod yn 'freak show'! Pobl diddorol sy' ddim yna i gyd. Sa chdi'n un dda!
Hon ydy'r got y gwnes i wisgo ar gyfer y photo shoot cyntaf gyda Heat magazine. Roeddwn i'n ei gwisgo hi gyda belt metal a studs yno fo a'r un jîns a dwi'n gwisgo rwan.
Felly ti di mynd o gael 'hand me downs' gan dy genfder, David, i gael dillad am ddim gan gylchgrawn Heat! Ydy hyn yn golygu dy fod ti wedi ffeindio dy steil neu wyt ti'n teimlo ychydig bach ar goll, fel bod pobl yn dewis dy steil i ti?
Mae o'n wrthgyferbyniad go iawn dydi? Ond dwi'n teimlo fy mod i wedi cael steil 'di roi i mi – a dwi'n licio fo. Dyna'r ffordd dwi'n gweld hi.
- CWPWRDD DILLAD