



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Beth yw eich steil chi?
Dydw i ddim yn credu bod steil i gael gen i fel y cyfryw. Prin anaml dwi’n talu pris llawn am ddillad. Dwi’n credu fod gen i fwy o ddiddordeb mewn bargeinion nac mewn dillad i ddweud y gwir.
Oes yna reolau am eich gwisg yn y gwaith?
Lobïwr ydw i yn y bôn, dwi’n mynd lawr i’r Cynulliad a San Steffan. Dwi’n cwrdd â gweinidogion, aelodau o’r Cynulliad ac aelodau Seneddol a phobl felly. Dwi’n teimlo dan yr amgylchiadau fod disgwyl i mi wisgo’n posh, siwt ac ati. Ar y penwythnos dwi’n hoffi gwisgo jîns, brogues, a siaced neu blazer.
Ym mhle fyddwch chi’n siopa?
Dwi’n mynd i lefydd fel McArthur Glen a dwi’n ffan o T.K.Maxx oherwydd eu bod nhw’n gwerthu pethau da yn rhad. Dwi dal yn ffan o Marks and Spencers ond yn tueddu i aros am y sêl.
Pam fod gennych chi gymaint o deis?
Mae lot ohonyn nhw yn golygu rhywbeth i mi, ond dwi’n prynu rhai am fy mod i’n hoffi’r lliwiau. Fe brynais i'r un streipiau coch a melyn yma yn TieRack, a heb wybod dim, mi ffeindiais i mas wedyn, roedd rhywun eisiau ei fenthyg o ar gyfer fancy dress achos mae e fel tei Harry Potter yn ôl pob tebyg! Dyma’n hoff dei i, tei Cymdeithas Cyn-ddisgyblion Ysgol Ramadeg Pontypridd. Mae e'r un lliwiau a thei Prifysgol Cymru ond fod y patrwm ychydig yn wahanol, ond mae’r lliwiau’ mynd gyda phopeth.
Mae ganddo’ch chi lot o deis gyda logos, ydych chi’n perthyn i nifer o glybiau?
Tydw i ddim yn aelod o nifer o glybiau. Mae gen i un coleg Kellogg yn Rhydychen gan mod i wedi aros yno unwaith ac maen nhw’n gwerthu’r teis i godi arian. Mae cysylltiadau rhwng Cymru a Choleg yr Iesu ac mae gen i dei o’r Coleg, ond fe ddewisais i’r tei am ei fod e’n wyrdd a does gen i ddim llawer o deis gwyrdd.
Pam fod ganddo’ch chi gymaint o grysau?
Mae’n siŵr fod rhai cannoedd gen i bellach, ond erbyn hyn dwi’n edrych am y geiriau deniadol - ‘Non Iron’! Mae’n rhaid i mi gael crysau ’non iron’! Dwi’n licio streips. Pan brynais i’r crys yma dim ond un crys oeddwn i ar ei ôl, ond bargen, mae'r rhain i gyd yn Yves Saint Laurent, ‘non iron’, a roedden nhw yn T K Maxx, lawr o £49 i £7, felly fe brynais bob un oedd yn fy ffitio i! Mae’n siŵr fod yna ryw saith neu wyth ohonyn nhw, i gyd yn wahanol liwiau. Felly'r bargeinion sy’n bwysicach na’r dillad.
Beth yw hanes y siaced yma?
Mewn siop ail-law ges i hon. Mae’n enw adnabyddus, Cavali, er dwi ddim yn label freak. Mae’r label yn y boced yn dweud £125 arno, ac roedd hynny’n ail-law!
Ydych chi’n meddwl fod ganddo’ch chi ormod o ddillad?
Dwi ddim yn credu bod problem gen i. Mae gen i lot o grysau, dwi’n cyfaddef hynny, ond dwi’n credu fod hynny yn dangos fy mod ychydig bach fel wiwer, yn tueddu i gadw pethau. Pan gai gwpwrdd dillad dwi’n mynd i fod yn ruthless ac fe all Oxfam gael field day!
- CWPWRDD DILLAD