



CWPWRDD DILLAD: Cliciwch yma i weld y lluniau'n fwy
Sut fydda ti’n disgrifio dy steil di?
Dwi’n meddwl mod i wedi setlo i batrwm o wisgo crys, jeans a siaced rhan fwya’ o’r amser. Ond ‘dwi hefyd yn licio’r syniad o newid pethau hefo’r tymor gan wisgo mwy o linen yn yr haf a phethau trymach fel tweed yn y gaeaf.
O le ddaeth dy ddiddordeb di mewn dillad?
Dwi’n cofio pan o’n i’n ifanc iawn mi nes i baentio llun o Mam-gu mewn dillad capel un diwrnod. Dwi’n cofio’r llun rŵan, roedd hi mewn siwt ddu hefo border coch arno fo. Felly mae’n rhaid 'mod i’n ymwybodol o fanylion dillad bryd hynny. Doedd Dad, Tad-cu a Taid ddim yn talu rhyw lawer o sylw, nac yn cael llawer o ddewis yn be oedden nhw’n ei wisgo, felly mae’n rhaid bod y dylanwad gweledol sydd gen i wedi dod gan Mam, Mam-gu a Nain.
Beth yw barn y teulu am dy steil di?
Maen nhw wastad wedi bod yn od o gefnogol, ond falle i bod nhw ddim cweit yn deall be dwi’n wisgo yn aml iawn. Dwi’n cofio dod adre o Rydychen pob hyn a hyn ac yn mynd i weld Mam-gu ac ro’n i bob tro’n gwisgo rhywbeth ychydig bach fwy traddodiadol na’r tro o’r blaen. Doedd hi ddim yn llawn sylweddoli hyn, er enghraifft pan fyddwn i’n gwisgo cufflinks mi fydda’ hi’n siŵr o ddweud ‘O! Ma’ cufflinks nôl mewn ffasiwn? Dyna beth da ynte’. Dwi’n siŵr y bydda ‘na ryw elfen o ‘gwyn y gwêl y fran ei chyw’ yno ganddi.
Ma’ nifer yn cysylltu Rhydychen â rhyw steil draddodiadol.
Dwi’n cofio mynd i’r coleg ar y diwrnod cyntaf a gyrru mewn i Rydychen hefo Dad, a’r person cyntaf i mi weld oedd hogyn ychydig yn hŷn na fi yn cerdded i lawr y stryd mewn siwt tweed, a Dad yn deud, “edrych arna’ fo!” a finnau’n meddwl ei fod o’n edrych yn grêt! Felly, mi oedd y traddodiad yna yn Rhydychen am wn i, ac yn rhywbeth oedd yn apelio’n fawr ata’i.
Oeddet ti’n cydymffurfio hefo’r steil neu oeddet ti’n teimlo dy fod di’n torri dy gŵys dy hun?
Dwi’n meddwl fod 'na elfen o gydymffurfio gyda’r ddelwedd draddodiadol, ond dwi’n ymwybodol iawn mai dim ond un agwedd o’r Rhydychen gyfoes ydy’r ddelwedd yna. Un o’r pethau gwych am y lle yw bod ‘na ryddid i wneud gwahanol bethau. Er bod yr agwedd draddodiadol ‘Brideshead Revisited’ yn dod i’r amlwg nid dyna’r unig lwybr o bell ffordd bellach ac mae gen i lu o ffrindiau, gan gynnwys ffrindiau aeth yno o Gymru, sydd wedi dewis llwybrau hollol wahanol o ran mynegi eu personoliaeth nhw a theimlo eu bod hwythau hefyd yn gyfforddus yno.
Faint o ddylanwad gafodd dy gyfnod di yn y coleg arnat ti?
Dwi’n meddwl pan fod rhywun yn y coleg ei fod o’n gyfnod o newid mawr i lot o bobl - mae’n gyfnod o ddarganfod be’ sy’n ffitio, o ran dillad, personoliaeth, ac o ran perthnasau a phob math o bethau. Mae’n gyfnod, nid o ail-greu, ond o ddarganfod, a hynny o ran golwg allanol ac o ran dyheadau mewnol. Dwi’n meddwl fod y ddau beth yn mynd hefo'i gilydd.
Mae’r lliwiau yma, y glas a’r gwyrdd yn liwiau reit Gymreig – hon oedd y siwt gyntaf i ti brynu?
Dim ond y siaced sydd ar ôl gen i yn anffodus oherwydd mae’r trowsus ychydig yn rhy fach bellach. Pan es i heibio’r siop, fel arfer roedd pethau’n echrydus o ddrud yna, ond roedd ‘na sêl yno’r diwrnod hwnnw, felly dyna be’ oedd y sbardun. Dyma un o’r ychydig siwtiau oedd ganddyn nhw ar ôl oedd ddigon bach i fy ffitio i ac mi oedd o’n ffitio’n berffaith, felly fe es i amdani.
Ma' dy grysau di’n lliwgar ac wedi eu cadw mor daclus!
Ma’ glas a phinc yn lliwiau eitha’ traddodiadol am grysau dynion felly dyna ydy’r dewis pennaf sydd gen i. Ges i’n magu ar Ynys Môn, ac roedd gan bawb ddillad dydd Sul go iawn, dynion yn ei siwtia’ a’r merched hŷn yn eu hetiau, ond erbyn hyn mae pobl wedi symud i ffwrdd oddi wrth hynny. Dwi’n gyfforddus ac yn anghyfforddus am fod yn wahanol. Ma’ rhan ohona i sydd wrth fy modd am beidio bod yr un peth a phawb arall, ond hefyd mae yna elfen swil ohona’i sy’n ymwybodol iawn mod i’n edrych yn wahanol ac sydd weithiau’n dyheu y gallwn i fod yn fwy tebyg i bawb arall.
Dydy'r rhain ddim yn gweddu o gwbl hefo gweddill cynnwys dy gwpwrdd di. O le ces di nhw?
Ers sawl blwyddyn dwi wedi bod yn mynd i’r Eidal, neu rywle diwylliedig fel’na am wyliau, ond haf diwetha' mi es i i Ibiza, neu mi ath rhywun a fi i Ibiza. Roedd yn rhaid i mi brynu set gyfa’ o ddillad cyfoes i mi allu eu gwisgo nhw yno - roedd hynny’n fyd siopa newydd i mi. Mi es i siopau ar y stryd fawr, doeddwn i erioed wedi bod ynddyn nhw o’r blaen, a dod yn ôl hefo casgliad o grysau-t a throwsusau gwyn tynn. Ma’ nhw mewn bocs yn yr atig ar hyn o bryd, ond falla y daw nhw i’r golwg unwaith eto pan fydd angen mynd am wyliau ar y traeth. Etifeddiaeth o’r gwylia yn Ibiza ydy'r rhain, rhywbeth hurt sy’ wedi dod yn ôl hefo fi. Mi ddois i o hyd i siop oedd yn gwneud espadrilles o bob lliw a phrynu'r rhain ac felly fe geith Caerdydd weld ffrwyth llafur fy siopa i yn Ibiza!
Ydy dy swydd di’n dylanwadu ar yr hyn wyt ti’n wisgo?
Ers i mi adael y coleg dwi wedi bod yn gweithio i’r Eglwys, a dwi bellach yn gweithio ym Mhencadlys un o’r enwadau yn Llundain. Ges i’n magu yn mynd i gapel, ond mi ddechreuais i fynd i’r Eglwysi Anglicanaidd pan o’n i yn y coleg. Mae’r traddodiad capelyddol Cymreig wastad wedi bod yn draddodiad sydd yn pwysleisio’r gair, pregethu a geiriau, ac mae’r Eglwys Anglicanaidd yn rhoi mwy o bwyslais ar y gweledol ac ar brydferthwch Duw. Mae hynny’n rhywbeth dwi’n ei gael yn ddefnyddiol wrth ystyried crefydd a dwi’n meddwl fod yna elfen o hynny yn bwydo mewn i’r ffordd mae rhywun yn byw bywyd yn gyffredinol.
Ydy dy grefydd di felly yn dylanwadu ar dy steil di?
Mae ‘na dueddiad o weld crefydd a Christnogaeth fel rhywbeth llym, rhywbeth sy’n cyfyngu, ond i mi tydio erioed wedi bod felly, mae’n rywbeth sydd wedi ehangu ngorwelion i. Pen llanw'r math yna o Gristnogaeth ydy gallu teimlo’n gyfforddus ac yn hapus yn dy groen a bod y mynegiant yna, y teimlad o lawnder a byw bywyd yn ei lawnder, yn rhywbeth sydd yn weledol ym mhob elfen o fywyd.
Wyt ti’n un sy’n beirniadu pobl yn ôl yr hyn ma’ nhw’n ei wisgo?
Wel, weithia’ dwi’n gallu bod yn snob ynglŷn â dillad, yn enwedig hefo ddynion. Weithiau dwi’n meddwl fod dynion yn ei chael hi’n hawdd iawn o ran eu bod nhw’n gallu gwisgo siwt ac mae’n hawdd gwybod beth i wisgo o fewn y cyfyngiadau yna. Ma’ ‘na gymaint o le i fynegiant ag i fod yn brydferth, ond hefyd cymaint o le i fod yn ddiflas ac yn ddiog a blêr. Weithiau wrth fynd ar y trên tanddaearol yn Llundain mi fyddai isio mynd fyny at rywun a dweud, ‘dyla eich bod chi’n gwneud mwy o ymdrech i ffeindio siaced sy’n ffitio’ neu ‘i gau eich botymau yn daclusach na hyn’.
Wyt ti’n credu fod dy steil di’n dylanwadu ar eraill?
Dwi’n licio’r syniad mod i’n annog pobl i beidio cydymffurfio ac yn annog pobl i ddod o hyd i elfennau yn eu personoliaeth nhw sydd ddim ar yr wyneb. Dwi’n gobeithio mai rhywle yn y canol yna ‘dwi’n gwisgo. Ar hyn o bryd 'dwi’n eitha’ hapus hefo sut dwi’n edrych a dwi’n gobeithio fod o’n rhywbeth neith sticio am ychydig.
- CWPWRDD DILLAD