Mae pobl yn anafu eu hunain mewn pob math o ffyrdd - trwy ddamwain, chwaraeon neu yn y gwaith er enghraifft - ac weithiau'n ddifrifol iawn. Mae'r tudalennau yma yn rhoi arweiniad i chi ar rai o'r prif fudiadau sy'n gallu helpu gyda rhai mathau o anafiadau.
Mae Headway yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau i bobl sydd gydag anaf i'r ymennydd, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn cynnal grwpiau cefnogaeth yng Nghonwy, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Benfro, Sir Gâr, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd - mwy o fanylion ar y wefan ddefnyddiol a thrwy'r linell gymorth hefyd.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales