Ceir sawl gwahanol fath o epilepsi. Mae'n gyflwr sydd fel arfer yn golygu fod person yn cael ffitiau wrth i batrwm trydanol anghyffredin godi yn yr ymennydd. Gall hyn fod oherwydd gwahanol resymau, yn cynnwys hanes teuluol neu broblem arall gyda'r ymennydd ers genedigaeth. Er bod hi'n bosib cael ffit oherwydd rhesymau eraill, allanol, sy'n effeithio'r ymennydd e.e. gormod o alcohol neu ddim digon o ocsigen, mae epilepsi'n gyflwr sy'n dod o'r ymennydd ei hun.
Mae 1 allan o bob 20 person yn cael ffit ar ryw bwynt yn eu bywydau, ond golygai epilepsi eich bod wedi cael mwy nag un ffit o'r fath. Gall ddigwydd i unrhyw un, unrhyw oedran. Mwy o wybodaeth am y cyflwr a ble i gael cefnogaeth os mae'n rhan o'ch bywyd chi yn y cysylltiadau yma.
Mae Epilepsi Cymru'n fudiad sy'n ceisio gwella bywydau pobl gydag epilepsi, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn cynnig gwybodaeth a chyngor drwy'r llinell gyngor, y gweithwyr maes a chylchoedd cymorth ar draws Cymru.
Rhan o'r elusen Epilepsy Action, maent yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth, yn cynnwys grwpiau lleol ar draws Gymru. Mwy o fanylion ar y gwefan.
Mae'r mudiad yma'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sydd gyda phlant anabl.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales