Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Gofal hir dymor

Gall rhai mathau o broblemau iechyd olygu for angen tipyn o gefnogaeth ychwanegol ar y sawl sy'n byw gyda'r cyflwr, a'u gofalwyr fel arfer.Gall rhai o'r mudiadau yma gynnig cefnogaeth, yn aml drwy grwpiau lleol a gwasanaethau eraill.

Cysylltiadau defnyddiol

  • Llinell Dementia Cymru

    Cefnogaeth ddwyieithog i unrhyw un, o unrhyw oedran, sydd yn edrych ar ôl person gyda dementia.

  • Cymdeithas Alzheimers

    Cymdeithas sydd yn gallu rhoi cefnogaeth a chymorth i'r sawl sy'n byw gydag Alzheimers, eu teuluoedd neu ofalwyr. Mae yna canghenni i'w cael yng Ngogledd a De Cymru.

  • Parkinson's UK

    Un o'r prif elusennau sy'n cefnogi'r sawl sy'n byw gyda clefyd Parkinson, a'u teuluoedd. Mae yna swyddogion lleol yn cynnig help a cefnogaeth ar draws Cymru.

  • Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

  • Age UK

    Mae Help the Aged ac Age Concern Cymru wedi uno. Mae'r mudiad yma'n gallu rhoi cyngor a chymorth ar ystod o bynciau sy'n effeithio pobl hyn yng Nghymru, yn cynnwys iechyd, diogelwch, tai a budd-daliadau. Maent hefyd yn rhedeg ymchwil o'r enw Disconnected Mind, sy'n edrych ar gyflwr dementia.

    • Rhif ffôn: 0808 800 6565 (Llun-Gwener, 9am-4pm)
    • Ffôn testun: 0800 26 96 26
    • Ymweld â'r wefan
  • Croesffyrdd Cymru

    Mae Croesffyrdd Cymru'n wasanaeth sy'n gofalu am y gofalwyr - maent yn cynnig cymorth ymarferol i ofalwyr ar draws Cymru drwy roi seibiant iddynt. Mwy o wybodaeth yn cynnwys manylion eich cynllun lleol ar y gwefan. 

  • Mind Cymru

    Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.

  • Cymdeithas Sglerosis Ymledol (MS)

    Mae'r Gymdeithas MS yn cynnig cefnogaeth a help i pobl sy'n byw gyda Sglerosis Ymledol a'u goflawyr, gyda dros 15 grwp lleol ar draws Cymru.

  • Diabetes UK Cymru

    Gwybodaeth ymarferol a chefnogol am ddiabetes, gan gynnwys manylion grwpiau lleol ar draws Cymru. Llinell gymorth ar gyfer pobl sydd yn byw gyda'r cyflwr yn ogystal a'u teuluoedd, ffrindiau neu gofalwyr.