Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Anhwylder Straen wedi Trawma

Anelir y gwybodaeth yma at bobl sydd wedi bod yn y lluoedd, ond mae Anhwylder Straen wedi Trawma yn gallu effeithio unrhyw berson sy’n mynd drwy brofiad trawmatig yn eu bywydau, un fel arfer sydd wedi golygu bygythiad corfforol difrifol.

Yn seicolegol, mae rhai pobl yn ei chael hi’n anodd i ddelio gyda’r argraff gryf ar y cof mae hyn yn ei greu ac yn mynd ymlaen i ddioddef o sumtomau yn cynnwys hunllefau neu ail fyw’r profiad yn annisgwyl.

Gall hyn gael effaith mawr ar eu bywydau, yn cynnwys ar eu perthynas ag eraill neu'r gallu i weithio, yn enwedig wrth geisio ail afael ar fywyd tu allan i’r lluoedd. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r dealltwriaeth o’r cyflwr yn gwella, ac mae yna mwy nag un triniaeth ar gael i helpu gyda’r cyflwr.

Cysylltiadau defnyddiol

  • Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

    Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

  • Mind Cymru

    Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.

  • Combat Stress

    Mae Combat Stress yn gymdeithas sydd wedi ei anelu at helpu'r sawl sydd wedi bod yn y lluoedd ac sy'n dioddef trawma oherwydd eu profiadau - dim ots ble neu pryd oedd hynny. Mae ganddynt ganolfannau ac arbenigwyr ar draws y Deyrnas Unedig. Mwy o wybodaeth ar y gwefan neu drwy ffonio un o'u canolfannau sydd wedi eu rhestru yma.

  • Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd

    Mae Cymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a'u Teuluoedd yna i roi cymorth i'r sawl sy'n gwasanaethu ar y funud neu wedi rhoi gwasanaeth i'w gwlad yn y gorffennol, yn ogystal ag i'w teuluoedd. Mae ganddynt ganghennau ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig. Gellir cysylltu â nhw am unrhyw bwnc, gan gynnwys problemau gydag Anhwylder Straen wedi Trawma.

  • National Gulf Veterans and Families Association

    Os fuoch yn Rhyfel y Gulf ar ddechrau'r nawdegau, neu yn rhan o'r rhyfel yn Irac, mae gwefan a llinell gymorth gefnogol ar gael gan y National Gulf Veterans and Families Association.

  • UK Trauma Group

    Am wybodaeth neilltuol ar drawma, mae'r UK Trauma Group yn cynnig gwefan defnyddiol iawn, gyda manylion ar adnoddau pellach a chanolfannau sy'n arbenigo mewn trin trawma.

  • Galw IECHYD Cymru

    Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.

  • Y Samariaid

    Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos.

  • BACP - British Association of Counsellors and Psychotherapists

    Os ydych chi'n edrych am therapi penodol i'ch cyflwr, neu angen help mewn perthynas, fedrwch gael gwybodaeth am eich therapydd cymwysedig lleol, yn ogystal â mathau o therapi ar gael, drwy fynd i wefan BACP.

  • Counselling Directory

    Mae'r gwefan yma'n rhoi gwybodaeth am ystod o wasanaethau lleol ar gael i chi, yn cynnwys rhai cwnsela.