Mae llawer o bobl yn cael eu heffeithio gan anhwylderau bwyta, sy'n gallu golygu gorfwyta gymaint â ddim bwyta digon. Gall perthynas anodd gyda bwyd greu problemau iechyd difrifol iawn, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mwy o wybodaeth am wahanol fathau o anhwylder bwyta, yn enwedig os mae'n effeithio un ai'ch bywyd chi neu rywun agos.
Beat yw'r enw newydd am y Gymdeithas Anhwylderau Bwyta (Eating Disorders Association), un o'r prif gymdeithasau i bobl sydd wedi eu heffeithio gan anhwylderau bwyta yn y DU. Mae grwpiau hunan gymorth a chwnsela arbenigol ar gael yng Nghymru, sef ym Mangor, Abertawe, Caerdydd ac Aberteifi. Gwybodaeth am wasanaethau arbenigol y Gwasanaeth Iechyd ar gael hefyd. Ceir gwasanaeth tecstio drwy 07786 201 820 gyda sgyrsiau rheolaidd ar-lein - ewch i'r gwefan i weld beth allent gynnig i chi.
Mae'r Ganolfan Genedlaethol Anhwylderau Bwyta yn gorff annibynnol sydd yna i helpu gyda phroblemau anhwylderau bwyta. Maent yn cynnig cwnsela, hyfforddiant a gwybodaeth, y rhan fwyaf yn Lloegr. Gwefan da gyda chwrs hunan gymorth a llawer o wybodaeth am y mathau gwahanol o anhwylder bwyta.
Mae Anorexia and Bulimia Care yn cynnig cefnogaeh i'r sawl sy'n dioddef o anhwylder bwyta, eu teuluoedd a'u ffrindiau. Ceir llinell gymorth a help ar-lein.
Llinell gymorth i bobl sy'n dioddef o bryder, panig, ffobiâu, anhwylder cymhellol-obsesiynol, anorecsia a bwlimia yw First Steps to Freedom - mae'r gwasanaeth yna hefyd i'w gofalwyr. Maent yn cynnig gwasanaeth cwnsela, gwrando, cynghori a gwybodaeth.
Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.
Gwasanaeth dros y ffôn sydd wedi ei leoli yng Nghymru, un sy'n barod i wrando ar bobl gyda phroblemau iselder neu broblemau iechyd meddwl o unrhyw fath. Ffoniwch wasanaeth C.A.L.L. neu ymwelwch â'r gwefan am fwy o wybodaeth. Gwasanaeth tecstio ar gael i bobl ifanc hefyd, drwy decstio'r gair HELP, wedyn disgrifiad byr o'r broblem i 81066 e.e. 'HELP ble mae'r gwasanaeth anhwylder bwyta agosaf i Gonwy'.
Mae YoungMinds yn llinell gymorth sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor i unrhyw un gyda phryderon am iechyd meddyliol person ifanc, er enghraifft os maent yn cael eu heffeithio gan fwlio. Darperir gwybodaeth am ystod o faterion iechyd meddwl a manylion gwasanaethau cenedlaethol a lleol.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales