Anhwylder genetic yw afiechyd neu gyflwr sy'n cael ei achosi gan broblemau gyda genynnau neu cromosomau, meini sylfaen pob person ac anifail. Gall cael ei basio ymlaen o genhedlaeth i genhedlaeth, ond hefyd gall fod yn rhannol oherwydd rhesymau allanol. Gall rhai o'r afiechydon mwyaf cyffredin, fel afiechyd y galon neu ganser, gael elfen enynnol fel rhan o'r broblem, mewn cyfuniad gyda'r ffordd mae pobl yn byw.
Ceir cryn amrywiaeth yn y mathau o anhwylder genetic gall cael ei etifeddu, o rhai gweddol ddiniwed fel dallineb lliw i rai mwy difrifol fel Syndrom Down neu ffibrosis codennol. Erbyn hyn, mae cydnabyddiaeth fod ffactorau genynnol mewn problemau meddyliol hefyd, er enghraifft gydag anhwylder deubegwn.
Diweddarwyd 09/04/2009
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
Un o'r prif fudiadau yn y Deyrnas Unedig i helpu'r sawl sy'n byw gyda ffibrosis codennog , eu teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn cynnig bob math o help a chyngor ymarferol am y cyflwr, trwy'r gwefan a'r llinell gymorth. Maent hefyd gydag arbenigwyr cynghorol fel bod pobl yn gallu cael y gofal gorau phosib yn eu hardal nhw.
Os mae Syndrom Edwards yn effeithio’ch babi, sef anhwylder cromosomaidd, gallwch gael cefnogaeth trwy'r mudiad yma.
Mae'r mudiad yma'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sydd gyda phlant anabl.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales