Clefyd y galon yw un o broblemau iechyd mwyaf Cymru, gyda hyd at 6,000 o bobl yn marw bob blwyddyn. Mae'n digwydd wrth i'r prif rydwelïau coronaidd gulhau, a thrwy wneud hynny, atal llif y gwaed i'r galon - mae'r gwaed yn angenrheidiol gan mai cyhyr yw'r galon. Ceir poenau mawr yn y frest, o'r enw angina, arwydd clir o'r clefyd. Gall hyn arwain at drawiad yn y pendraw, os nad oes triniaeth i'r cyflwr.
Mae cyfuniad o ffordd o fyw a'ch etifeddiaeth enynnol yn gyfrifol am hyn i raddau helaeth. Y cyngor gorau yw bwyta'n iach, peidio smocio, peidio goryfed a gwneud ymarfer corff rheolaidd os am gael siawns dda o osgoi'r cyflwr.
Os ydych y poeni am hyn, neu mae clefyd y galon yn rhan o'ch bywyd eisoes, ceir mwy o wybodaeth a chefnogaeth yn y dolenni isod.
Mae BHF Cymru yn ceisio gwella’r sefyllfa clefyd y galon yng Nghymru, trwy ymgyrchoedd iechyd, lobïo am wasanaethau gwell a datblygu ymchwil.
Cyngor ar sut i edrych ar ôl eich calon, ac ymchwil i fewn i well triniaeth i broblemau'r galon ar draws Cymru.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
Cyngor ar sut i fwyta'n iach er mwyn eich calon gan Asiantaeth Safonau Bwyd.
Gwefan a chefnogaeth ymarferol dros y ffôn ar sut i roi'r gorau i smygu.
Cyngor gan Llywodraeth y Cynulliad ar sut i wella eich iechyd a pha gamau i gymryd er eich lles yn gyffredinol.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales