Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Colled a galar

Gall colli rhywun agos fod yn brofiad ysgytwol, a'n gadael gyda teimladau o dristwch, anobaith, hyd yn oed yn teimlo'n flin. Mae manylion y mudiadau a'r llinellau cymorth canlynol i'ch helpu os ydych chi neu rhywun agos i chi wedi colli rhywun ac angen help, cefnogaeth neu clust i wrando.

Cysylltiadau defnyddiol

Cruse Bereavement Cymru

Mae Cruse Cymru yn cynnig gwasanaethau cynghori, gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae deg grŵp ar draws Cymru a chynigir cyngor arbenigol ar brofedigaeth i blant a chyngor dros y ffôn gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi a'u dethol yn ofalus. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i gael hyd i gymorth lleol.

The Compassionate Friends

Mae'r Compassionate Friends yn cynnig llinell gymorth a gwefan gyda fforymau i helpu rhieni sydd wedi colli plentyn. Ceir rhagor o wybodaeth i frodyr neu chwiorydd sydd wedi colli rhywun ar wefan arall gysylltiedig.

Llinell Gymorth Colli Plentyn

Mae'r Llinell Gymorth Colli Plentyn yna i bobl sydd wedi colli plentyn o dan unrhyw amgylchiadau, dim ots pa mor bell yn ôl, ac angen siarad. Ewch i'r gwefan am fwy o fanylion neu ffoniwch y rhif yn rhad ac am ddim.

  • Rhif ffôn:
    0800 282 986 (10am-1pm & 7pm-10pm o Dydd Llun i Ddydd Gwener & Dydd Mercher 1pm-4pm)
  • Ymwelwch â'r gwefan

Survivors of Bereavement by Suicide

Mae Survivors of Bereavement through Suicide yna i helpu pobl sydd wedi colli rhywun agos drwy hunan laddiad. Maent yn cynnig cefnogaeth trwy'r llinell gymorth, y gwefan a grwpiau lleol.

WAY Foundation

I'r sawl sydd wedi colli partner o dan 50 mlwydd oed, gallwch gysylltu â'r WAY Foundation, sy'n cynnig cefnogaeth leol ar draws y Deyrnas Unedig , yn cynnwys yng Nghymru. Cerwch i'w gwefan am fwy o wybodaeth.

Y Samariaid

Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos.

Counselling Directory

Mae'r gwefan yma'n rhoi gwybodaeth am ystod o wasanaethau lleol ar gael i chi, yn cynnwys rhai cwnsela.