Mae colli rhiant neu rywun agos yn gallu bod yn anodd iawn. Gall ddigwydd oherwydd salwch neu ddamwain ac mae'n bron yn amhosib paratoi eich hun am hyn. Gall olygu fod eich bywyd yn newid am byth, ac mae'n anodd gadael i deimladau trist ac o golli rhywun fynd. Beth sy'n sicr yw bod hyn yn rhywbeth mae'n rhaid i bawb wynebu ar ryw bwynt yn eu bywydau, mae'n rhan naturiol o dyfu fyny.
Pan mae'r amser yn iawn i chi, mae'n bwysig i chi allu siarad am eich teimladau gydag eraill. Mae galaru'n daith, a gall rhai o'r gwefannau a llinellau cymorth eich helpu ar y ffordd.
Un oi'r prif elusennau sy'n cefnogi pobl sydd wedi colli plentyn, neu'n helpu plant trwy gyfnod o alaru.
Gwasnaeth i'ch helpu gyda'r golled. Maent yn cynnig llinell gymorth i chi gael siarad, gwansaeth ebost a byrddau neges. Lot o wybodaeth perthnasol ar y wefan.
Mae Cruse Cymru yn cynnig gwasanaethau cynghori, gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sydd wedi cael profedigaeth. Mae deg grŵp ar draws Cymru a chynigir cyngor arbenigol ar brofedigaeth i blant a chyngor dros y ffôn gan wirfoddolwyr sydd wedi eu hyfforddi a'u dethol yn ofalus. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o wybodaeth, yn cynnwys sut i gael hyd i gymorth lleol.
Cyngor a chymorth os ydych yn ceisio delio gyda cholled.
Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.
Sianel ar y we sy'n llawn gwybodaeth defnyddiol i bobl rhwng 11-25 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf, eich iechyd, addysg a phob math o bynciau eraill pwysg wrth i chi dyfu.
Mae TheSite.org yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog sy'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales