Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Gofalwyr

Mae yna bell dros 300,000 o bobl yn gofalu am eraill yn wirfoddol yng Nghymru, yn edrych ar ôl teulu agos neu eraill. Os ydych chi'n un o'r pobl sy'n gwneud hyn, mae yna ddolenni defnyddiol yma a gwybodaeth am fudiadau cefnogol i chi.

Cysylltiadau defnyddiol

  • Cynhalwyr Cymru

    Mae'r mudiad yma'n cynnig cyngor a chefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, gan ymgyrchu ar ran eu hawliau hefyd. Cysylltwch â nhw am unrhyw agwedd o edrych ar ôl eraill, o ble i gael help ariannol i'ch gwasanaethau lleol.

    • Rhif ffôn: 0808 808 7777 (10am-12pm & 2pm-4pm, Dydd Mercher & Dydd Iau)
    • Ymweld â'r wefan
  • Croesffyrdd Cymru

    Mae Croesffyrdd Cymru'n wasanaeth sy'n gofalu am y gofalwyr - maent yn cynnig cymorth ymarferol i ofalwyr ar draws Cymru drwy roi seibiant iddynt. Mwy o wybodaeth yn cynnwys manylion eich cynllun lleol ar y gwefan. 

  • Cyswllt Teulu Cymru

    Mae'r mudiad yma'n cynnig cefnogaeth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd sydd gyda phlant anabl.

    • Rhif ffôn: 0808 808 3555 (10am-4pm, Llun-Gwener)
    • Ffôn testun: 0808 808 3556
    • Ymweld â'r wefan
  • Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr

    Mae'r Ymddiriedolaeth yn cynnig rhwydwaith o help, cyngor a chefnogaeth i'r rhai sy'n gofalu am eraill. Mae o leiaf 13 canolfan yng Nghymru, a cheir mwy o wybodaeth am beth maent yn ei gynnig o'r gwefan neu drwy ffonio.