Iechyd
Mae'r tudalennau yma'n cynnig cefnogaeth i helpu gyda'ch iechyd a'ch lles.
Mae'r tudalennau yma'n cynnig cefnogaeth i helpu gyda'ch iechyd a'ch lles.
Diweddarwyd 10/06/2008
Diweddarwyd 12/06/2008
Diweddarwyd 18/11/2008
Diweddarwyd 14/01/2009
Diweddarwyd 13/02/2009
Mae Tenovus yn cynnig gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Gwybodaeth ar sut i osgoi canser, profion, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi.
Mae Macmillan Cancer Relief yn brwydro i wella ansawdd bywyd y sawl sy'n byw gyda chanser. Maent yn cynnig cyngor ymarferol trwy'r wybodaeth sydd ar y gwefan neu trwy'r llinell gymorth, yn ogystal â'r 2000 o nyrsys hyfforddedig ganddynt sy'n arbenigo mewn canser.
Cancer BACKUP yw un o'r prif wasanaethau gwybodaeth am ganser ym Mhrydain. Maent yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf, cyngor ymarferol a chefnogaeth i'r sawl sy'n mynd trwy driniaeth, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Rhedir y gwasanaeth gan nyrsys profiadol yn y maes.
Cancer Research UK yw un o'r mudiadau ymchwil gwirfoddol mwyaf yn y byd. Ceir manylion am y driniaeth ddiweddaraf, llinellau cymorth a gwasanaethau cynnal ar eu gwefan.
Mae CancerHelp yn wasanaeth gwybodaeth cynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, ac yn rhan o Cancer Research UK.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales