Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Iechyd 65+

Wrth i bobl heneiddio, mae eu hanghenion iechyd yn newid. Mae'r adran yma'n edrych ar iechyd pobl hyn ac yn awgrymu ble gellir mynd am gefnogaeth a chyngor. 

Cysylltiadau defnyddiol

  • Llinell Dementia Cymru

    Cefnogaeth ddwyieithog i unrhyw un, o unrhyw oedran, sydd yn edrych ar ôl person gyda dementia.

  • Cymdeithas Alzheimers

    Cymdeithas sydd yn gallu rhoi cefnogaeth a chymorth i'r sawl sy'n byw gydag Alzheimers, eu teuluoedd neu ofalwyr. Mae yna canghenni i'w cael yng Ngogledd a De Cymru.

  • Age UK

    Mae Help the Aged ac Age Concern Cymru wedi uno. Mae'r mudiad yma'n gallu rhoi cyngor a chymorth ar ystod o bynciau sy'n effeithio pobl hyn yng Nghymru, yn cynnwys iechyd, diogelwch, tai a budd-daliadau. Maent hefyd yn rhedeg ymchwil o'r enw Disconnected Mind, sy'n edrych ar gyflwr dementia.

    • Rhif ffôn: 0808 800 6565 (Llun-Gwener, 9am-4pm)
    • Ffôn testun: 0800 26 96 26
    • Ymweld â'r wefan
  • Croesffyrdd Cymru

    Mae Croesffyrdd Cymru'n wasanaeth sy'n gofalu am y gofalwyr - maent yn cynnig cymorth ymarferol i ofalwyr ar draws Cymru drwy roi seibiant iddynt. Mwy o wybodaeth yn cynnwys manylion eich cynllun lleol ar y gwefan. 

  • Mind Cymru

    Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.

  • Patient.co.uk

    Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.

  • Comisiynydd Pobl Hyn Cymru

    Ar y funud, mae Cymru'n unigryw wrth gael Comisiynydd Pobl Hyn, fel rhan o'r llywodraeth ond yn annibynnol, i edrych ar ôl buddiannau pobl hyn.