Pobl ifanc
Gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc.
Gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ifanc.
Diweddarwyd 11/06/2008
Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, yn cynnwys bwlio, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.
Mae Bullies Out yn elusen Gymreig sy'n darparu gwybodaeth ddwyieithog safonol am fwlio i blant ac oedolion, yn ogystal â chynnal fforwm cymorth ar-lein.
Gwasanaeth da iawn ar lein sy'n gysylltiedig â Childline. Fedrwch gael mwy o wybodaeth am fwlio a phynciau eraill, gadael negeseuon neu gael help uniongyrchol dros y we ar ôl cofrestru.
Cewch wybodaeth fywiog ar sut i guro'r bwlis o wefan BBClic.
Cyngor da os ydych yn cael eich bwlio a phynciau eraill sy'n effeithio pobl ifanc yn Need2Know.
Mae EACHaction yn cynnig help i'r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan fwlio oherwydd eu rhywioldeb. Ffoniwch neu ewch i'r gwefan am fwy o fanylion.
Os ydych o dan 25 gallwch gael cefnogaeth emosiynol gyfrinachol yn rhad ac am ddim o wasanaeth Get Connected.
Os ydych yn ddyn ifanc, gellir cael help a chyngor os ydych chi'n teimlo'n isel drwy fynd i wefan C.A.L.M. neu drwy gael gair dros y ffôn.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales