Mae sawl gwahanol fath o iselder, ac mae yna raddfeydd o ba mor ddifrifol mae’r salwch clinigol yma’n gallu effeithio'ch bywyd. Yn ôl ffigyrau diweddar, bydd tua un allan o bob pump ohonom yn dioddef o iselder ar ryw bwynt yn ein bywydau.
Rhaid gwahaniaethu hefyd rhwng teimlo’n isel yr ysbryd weithiau - sy’n hollol naturiol - a chael cyfnod o iselder sydd ddim yn gwella, sy’n cael ei gyfri’n salwch. Cofiwch mai’ch doctor yw un o’r bobl gyntaf allwch weld os ydych chi'n dioddef cyfnod fel hyn.
Mae’r adnoddau isod yn ceisio darparu ar gyfer y sbectrwm o’r mathau o iselder. Ceir gwybodaeth ychwanegol ar iselder ar ôl rhoi genedigaeth, anhwylder deubegwn (Bipolar Disorder) ac anhwylder tymhorol (Seasonal Affective Disorder).
Ymgeisiwn i restru'r ffynonellau mwyaf safonol o help ar y we, yn ogystal â dros y ffôn, gan gynnwys ble i gael therapi proffesiynol.
Gwybodaeth da dwyieithog gan Papyrus, i'r sawl sy'n teimlo'n isel iawn.
Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.
Trafod mewn grwp gydag eraill sy'n dioddef yw'r ffordd gorau i ddygymod a phroblemau weithiau. Mae Journeys, oedd gynt yn cael ei alw'r Depression Alliance, gyda 25 grŵp hunan gymorth ar draws Cymru.
Gellir cael gwybodaeth ddefnyddiol iawn o wefan SANE, gan gynnwys cyngor ar lyfrau defnyddiol i helpu gyda bob math o iselder. Llinell gymorth bob nos ar gael hefyd.
Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.
Hafal yw un o brif elusennau Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol, a'u gofalwyr. Maent yn cynnig gwasanaethau yn seiliedig ar yr egwyddorion o hunanreolaeth a grymuso, i helpu pobl wella pob agwedd o'u bywydau. Manylion cyswllt ym mhob awdurdod lleol ar y wefan.
Os ydych yn ddyn ifanc, gellir cael help a chyngor os ydych chi'n teimlo'n isel drwy fynd i wefan C.A.L.M. neu drwy gael gair dros y ffôn.
Gwasanaeth dros y ffôn sydd wedi ei leoli yng Nghymru, un sy'n barod i wrando ar bobl gyda phroblemau iselder neu broblemau iechyd meddwl o unrhyw fath. Ffoniwch wasanaeth C.A.L.L. neu ymwelwch â'r gwefan am fwy o wybodaeth. Gwasanaeth tecstio ar gael i bobl ifanc hefyd, drwy decstio'r gair HELP, wedyn disgrifiad byr o'r broblem i 81066 e.e. 'HELP ble mae'r gwasanaeth anhwylder bwyta agosaf i Gonwy'.
Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu gyda'ch bywyd emosiynol a'ch iechyd meddwl. Hefyd, help i geisio deall os yn rhiant neu'n ofalwr i berson ifanc.
Os yn fyfyriwr, gallwch gael help o mwy nag un ffynhonnell. Mae gwasanaeth Nightline yn glust i wrando ar bob campws, a fedrwch gael manylion y rhif trwy'ch undeb, neu drwy edrych am eich gwasanaeth lleol ar y gwefan.
Gwybodaeth ddefnyddiol a help ar gael os yn fyfyriwr ac yn teimlo'n isel, neu'n poeni am rywun arall sy'n teimlo hynny.
Os ydych chi'n edrych am therapi penodol i'ch cyflwr, neu angen help mewn perthynas, fedrwch gael gwybodaeth am eich therapydd cymwysedig lleol, yn ogystal â mathau o therapi ar gael, drwy fynd i wefan BACP.
Os ydych o dan 25 gallwch gael cefnogaeth emosiynol gyfrinachol yn rhad ac am ddim o wasanaeth Get Connected.
Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos.
Mae'r gwefan yma'n rhoi gwybodaeth am ystod o wasanaethau lleol ar gael i chi, yn cynnwys rhai cwnsela.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales