Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Meddwl

Cymorth a chefnogaeth gyda iechyd meddwl.

Erthyglau diweddaraf ar Meddwl

Iselder ol-enedigol

Diweddarwyd 21/10/2008

Anhwylder deubegwn

Diweddarwyd 21/10/2008

Anhwylder tymhorol

Diweddarwyd 22/10/2008

Cysylltiadau defnyddiol

Papyrus

Gwybodaeth da dwyieithog gan Papyrus, i'r sawl sy'n teimlo'n isel iawn.

  • Rhif ffôn:
    08000 68 4141 (Llun-Gwener, 10am-5pm & 7pm-10pm, Penwythnos 2pm-5pm)
  • Ymwelwch â'r gwefan

Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion llawn gwybodaeth gyfredol fanwl ar bob math o iselder a salwch meddwl, yn cynnwys y sumtomau a'r opsiynau gorau yn nhermau triniaeth.

Journeys

Trafod mewn grwp gydag eraill sy'n dioddef yw'r ffordd gorau i ddygymod a phroblemau weithiau. Mae Journeys, oedd gynt yn cael ei alw'r Depression Alliance, gyda 25 grŵp hunan gymorth ar draws Cymru.

Sane

Gellir cael gwybodaeth ddefnyddiol iawn o wefan SANE, gan gynnwys cyngor ar lyfrau defnyddiol i helpu gyda bob math o iselder. Llinell gymorth bob nos ar gael hefyd.

  • Rhif ffôn:
    0845 767 8000 (6pm-11pm, bob nos)

Mind Cymru

Mae Mind Cymru gyda 20 grŵp lleol ar draws Cymru, ac yn gallu rhoi gwybodaeth safonol am wasanaethau lleol ac am unrhyw help sydd ar gael ynglyn ag iechyd meddwl yn eich ardal. Ewch i'w gwefan am wybodaeth glir a chyfredol am unrhyw agwedd o iechyd meddwl neu ffoniwch y MindInfoLine.

Hafal

Hafal yw un o brif elusennau Cymru ar gyfer pobl gydag afiechyd meddwl difrifol, a'u gofalwyr. Maent yn cynnig gwasanaethau yn seiliedig ar yr egwyddorion o hunanreolaeth a grymuso, i helpu pobl wella pob agwedd o'u bywydau. Manylion cyswllt ym mhob awdurdod lleol ar y wefan.

C.A.L.M. - Campaign Against Living Miserably

Os ydych yn ddyn ifanc, gellir cael help a chyngor os ydych chi'n teimlo'n isel drwy fynd i wefan C.A.L.M. neu drwy gael gair dros y ffôn.

C.A.L.L.- Community Advice and Listening Line

Gwasanaeth dros y ffôn sydd wedi ei leoli yng Nghymru, un sy'n barod i wrando ar bobl gyda phroblemau iselder neu broblemau iechyd meddwl o unrhyw fath. Ffoniwch wasanaeth C.A.L.L. neu ymwelwch â'r gwefan am fwy o wybodaeth. Gwasanaeth tecstio ar gael i bobl ifanc hefyd, drwy decstio'r gair HELP, wedyn disgrifiad byr o'r broblem i 81066 e.e. 'HELP ble mae'r gwasanaeth anhwylder bwyta agosaf i Gonwy'.

  • Rhif ffôn:
    0800 132737 (10am-2pm, wedyn 7pm-11pm, Llun i Gwener, wedyn 12pm-12am ar y penwythnos)
  • Ymwelwch â'r gwefan

Young Minds

Gwybodaeth ddefnyddiol i'ch helpu gyda'ch bywyd emosiynol a'ch iechyd meddwl. Hefyd, help i geisio deall os yn rhiant neu'n ofalwr i berson ifanc.

NawddNos

Os yn fyfyriwr, gallwch gael help o mwy nag un ffynhonnell. Mae gwasanaeth Nightline yn glust i wrando ar bob campws, a fedrwch gael manylion y rhif trwy'ch undeb, neu drwy edrych am eich gwasanaeth lleol ar y gwefan.

Students Against Depression

Gwybodaeth ddefnyddiol a help ar gael os yn fyfyriwr ac yn teimlo'n isel, neu'n poeni am rywun arall sy'n teimlo hynny.

BACP - British Association of Counsellors and Psychotherapists

Os ydych chi'n edrych am therapi penodol i'ch cyflwr, neu angen help mewn perthynas, fedrwch gael gwybodaeth am eich therapydd cymwysedig lleol, yn ogystal â mathau o therapi ar gael, drwy fynd i wefan BACP.

Get Connected

Os ydych o dan 25 gallwch gael cefnogaeth emosiynol gyfrinachol yn rhad ac am ddim o wasanaeth Get Connected.

Y Samariaid

Cefnogaeth emosiynol gyfrinachol dros y ffôn ar gael gan y Samariaid - unrhyw bryd, dydd neu nos.

Counselling Directory

Mae'r gwefan yma'n rhoi gwybodaeth am ystod o wasanaethau lleol ar gael i chi, yn cynnwys rhai cwnsela.

Galw IECHYD Cymru

Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.