Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Cyfeiriadedd rhywiol

Os ydych chi efallai gyda cwestiynnau am rhywioldeb eich hunain, ac yn edrych am gyngor neu gymorth, hwn yw'r lle i ddod. Cynigir cymorth yn ogystal i rieni neu aelodau eraill o'r teulu, os maent wedi eu heffeithio gan newid mewn rhywioldeb person agos.

Ceir mudiadau hefyd a ellir helpu os mae'ch rhywioldeb yn ffactor mewn perthynas yn chwalu neu mewn problemau hawliau gwarchodaeth plentyn.


Cysylltiadau defnyddiol

  • Llinell Gymorth LGBT Cymru

    Mae’r Llinell Gymorth LGBT Cymru yn wasanaeth am ddim i lesbiaid, hoywon, pobl ddeurywiol neu drawsrywiol. Maent yn gallu cynnig help pan mae pobl yn ‘dod allan’ drwy siarad am y problemau o wneud hyn a rhoi hyder i chi wrth gyfarfod a phobl debyg. Mwy o fanylion cysylltu ar y gwefan.

  • Gaywales

    Am fwy o wybodaeth am beth sy’n mynd ymlaen i bobl hoyw yng Nghymru, ewch i wefan Gaywales, sydd hefyd gyda manylion am ba wasanaethau sy'n gyfeillgar i hoywon ar draws y wlad.

  • Stonewall Cymru

    Mae Stonewall Cymru’n fudiad sy’n edrych ar ôl a hybu hawliau lesbiaid , hoywon a phobl ddeurywiol yng Nghymru, ac maent yn gallu rhoi cyngor ar bynciau fel partneriaeth sifil a gwahaniaethu anffafriol. Ewch i’r gwefan am fwy o wybodaeth.

  • Switsfwrdd Lesbiaid a Hoywon Llundain

    Mae'r Switsfwrdd yn gallu cynnig help, gwybodaeth a chefnogaeth yn gysylltiedig a'ch rhywioldeb i unrhyw berson yn y Deyrnas Unedig - lesbiaid, hoywon, deurywiol, trawsrywiol neu ddim un o'r rhain, ond angen mwy o wybodaeth am faterion perthnasol.

  • Straight Spouse Network

    Yr unig fudiad rhyngwladol sy'n rhoi cefnogaeth uniongyrchol i'r sawl sy'n darganfod bod eu gŵr, gwraig neu bartner yn hoyw.

  • Relate

    Mae Relate yn cynnig cwnsela, therapi seicorhywiol a gwasanaethau eraill i gwplau sy'n cael problemau yn eu perthynas. Ewch i'r gwefan am fwy o fanylion o'r math o help maent yn ei gynnig.

  • FFLAG - Families and Friends of Lesbians and Gays

    Mae FFLAG yn cynnig cefnogaeth i grwpiau rhieni lleol sy'n ceisio dod i ddeall aelodau o'r teulu sy'n lesbiaid, hoywon neu'n ddeurywiol. Maent hefyd yn gweithio ar brosiectau i daclo bwlio yn erbyn hoywon.

  • Queer Youth Network

    Mae'r Queer Youth Network yn fudiad ar draws y Deyrnas Unedig sy'n cael ei redeg gan ac i bobl ifanc sy'n lesbiaid, hoyw, deurywiol, trawsywiol neu queer. Manylion grwpiau lleol yng Nghymru, byrddau neges bywiog, cyngor a mwy.