Mae’r nifer o bobl gyda heintiau rhywiol wedi bod yn cynyddu yn ddiweddar, a pobl ifanc sy’n tueddu cael eu heffeithio fwyaf gan hyn, yn enwedig os nad ydynt yn ymarfer rhyw diogel. Mae'r problemau sy'n gysylltiedig â'r clefydau mwyaf cyffredin - gonorrhea, clamydia a dafadennau - yn gallu cael effaith am oes.
Mae’r mudiadau isod yn gallu cynnig cyngor os ydych chi angen gwybod mwy am rhyw diogel neu os ydych yn meddwl eich bod wedi cael haint rhywiol. Cofiwch mai’r person cyntaf i gael gair gyda yw eich doctor, ond mae’n bosib hefyd mynd yn syth i’ch Meddygaeth Genhedlol Droethol – clinig GUM yn Saesneg – a gallwch gael hyd i’ch un lleol yn syth o rhai o’r gwefannau neu llinellau isod.
Gwefan da iawn os ydych o dan 18 oed sy'n cynnig gwybodaeth a chyngor ar ryw ac iechyd rhywiol, neu medrwch eu ffonio yn rhad ac am ddim.
Mae'r Llinell Wybodaeth Iechyd Rhywiol yn cynnig gwybodaeth a chyngor ar atal cenhedlu, dulliau atal cenhedlu brys, condomau, heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a phrofion beichiogrwydd. Maent hefyd yn gallu rhoi manylion eich gwasanaeth iechyd rhywiol lleol.
Mae'r Family Planning Association yn cynnig cyngor ar atal cenhedlu, heintiau rhywiol a sut i gynllunio am fabi, ond hefyd beth i wneud os ydych yn beichiogi'n annisgwyl. Gwybodaeth drylwyr am bopeth ar gael drwy'r wefan a'r llinell gymorth, yn ogystal â lleoliad eich clinig lleol.
Er bod dim clinigau Brook ar gael yng Nghymru, mae'r gwefan llawn gwybodaeth ddefnyddiol ar atal cenhedlu a heintiau rhywiol. Mae'r gwasanaeth wedi ei anelu at bobl ifanc ac at y sawl sydd efallai'n cysidro opsiynnau os yn feichiog yn annisgwyl.
Mae'r Terence Higgins Trust yna i bobl sydd yn cael eu heffeithio gan HIV yn benodol, ac yn cynnig cymorth ymarferol o bob math i bobl sy'n byw gyda'r cyflwr, eu partneriaid a'u teuluoedd.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales