Ceir strôc pan mae'r llif gwaed i'r ymennydd yn cael ei rwystro ac yn achosi niwed. Mae dwy brif fath, un sy'n cael ei achosi gan dolchen yn ffurfio yn y gwaed, a'r llall drwy i lestr gwaed dorri yn yr ymennydd.
Mae'n un o'r prif resymau dros anabledd yng Nghymru, ac ar ôl clefyd y galon a chanser, un o'n prif broblemau iechyd. Fel clefyd y galon, er bod yna elfen enynnol sy'n gwneud hi'n fwy tebygol i rai cael strôc, mae ein ffordd o fyw hefyd yn ffactor bwysig. Gall ddigwydd unrhyw oedran, ond mae'n tueddu effeithio llawer mwy o bobl dros 65 mlwydd oed.
Mae'r mudiadau yma yn cynnig cyngor a chefnogaeth i bobl sydd wedi cael strôc, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
Yna i helpu pobl sydd wedi cael strôc, eu teuluoedd a'u gofalwyr, gyda chysylltiadau lleol ar draws Cymru.
Elusen sy'n canolbwyntio ar helpu pobl ifanc sydd wedi cael strôc.
Cyngor gan Llywodraeth y Cynulliad ar sut i wella eich iechyd a pha gamau i gymryd er eich lles yn gyffredinol.
Gwybodaeth helaeth o safon am bynciau iechyd, sy'n cael ei ddarparu gan ddoctoriaid a nyrsys mewn ymgynghoriad fel arfer.
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales