Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Therapiau

Ceir llawer o wahanol fathau o therapïau i drin pobl sydd gyda gwahanol glefydau neu anhwylderau. Gallent fod yn therapïau i adfer neu wella. Mae rhai, fel therapi siarad neu therapi galwedigaethol, ar gael trwy'r sustem iechyd, tra bod eraill, fel aciwbigo dim ond yn cael eu cydnabod fel therapïau o fudd yn raddol yn y sustem.

Darperir gwybodaeth yma am rhai o'r therapïau mwyaf cydnabyddedig , gan gynnig cysylltiadau i fudiadau safonol yn eu meysydd. 

Erthyglau diweddaraf ar Therapiau

Therapi celf

Diweddarwyd 17/06/2009

Cysylltiadau defnyddiol

Cymdeithas Therapyddion Celf Brydeinig

Mae'r gymdeithas yna i esbonio, hybu a rhoi mynediad i therapi celf. Gallent roi manylion am ymarferwyr cydnabyddedig, cyrsiau a hyfforddiant. Mwy o wybodaeth ddefnyddiol am y math yma o therapi ar y gwefan.

The Creative Response

Cymdeithas o therapyddion celf sy'n canolbwyntio ar helpu'r sawl sy'n wynebu colled, canser neu gyflwr peryg hirdymor fel AIDS.

Y Filltir Sgwar

Prosiect celf a storaeon o Ty Geraint, Aberystwyth, canolfan adnoddau gofal lliniarol.