Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Trais

Yn anffodus, mae trais yn rhan o'n cymdeithas ac yn gallu cael effaith ar fywydau pobl o bob oedran, yn ddynion, merched neu blant. Mae'n fwy tebygol i chi ddioddef trais os yn ddyn ifanc, ond mae trais yn y cartref, a thrais neu gam-drin rhywiol, yn gallu digwydd i unrhyw un. Mae'r adran yma yn eich cysylltu gyda mudiadau cefnogol os ydych wedi dioddef triniaeth o'r fath.

Cysylltiadau defnyddiol

  • Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan

    Mae'r llinell yn cynnig gwybodaeth a chyngor dwyieithog, 24 awr y dydd. Gall helpu drwy gefnogi pobl sydd â phrofiad o gamdriniaeth yn y cartref neu drais rhywiol, yn ogystal ag arallgyfeirio eraill i wasanaethau cynghori, cefnogaeth frys, mannau diogel a gwybodaeth am eu hawliau a’u hopsiynau.

  • New Pathways

    Mae New Pathways yn cynnig help, cefnogaeth a chwnsela i bobl sydd wedi cael eu treisio neu eu cam-drin yn rhywiol. Mae'n rhedeg un allan o'r ddau Ganolfan Cyfeirio Ymosodiad Rhywiol yng Nghymru, ac ar wahân i'r llinell gymorth sydd yn agored i bawb, maent yn cynnig cwnsela ar draws De Cymru.

  • RASA Gogledd Orllewin Cymru

    Mae'r Canolfan Trais a Chamdriniaeth Rywiol yna i helpu'r sawl sydd wedi dioddef o gamdriniaeth o'r fath yng Ngogledd Orllewin Cymru. Gwasanaeth ffôn cyfyngedig, ond gadewch neges ac fe gynigir cefnogaeth.

    • Rhif ffôn: 01286 669266
  • Survivors UK

    Cymorth i ddynion sydd wedi dioddef trais neu chamdriniaeth rhywiol.

  • The Survivors Trust

    Rhwydwaith sy'n ceisio rhoi cefnogaeth a grym i'r sawl sydd wedi dioddef camdriniaeth neu drais rhywiol, drwy gynnig llais a help drwy gyfoedion. 

  • Rape Crisis

    Mae Rape Crisis yn cyd-lynu canolfannau trais rhywiol ar draws Cymru a Lloegr, gan roi help, cefnogaeth a chyngor i'r sawl sydd wedi dioddef trais rhywiol.

  • Victim Support

    Mae'r elusen yma yn helpu pobl sydd wedi dioddef oherwydd troseddu eraill, ac mae ganddynt dimau lleol i'ch helpu os mae hynny'n wir i chi.

  • Cymorth i Ferched Cymru

    Cefnogaeth a help ymarferol ar draws Gymru i ferched a phlant sy'n dioddef trais yn y cartref. Dros drideg o grwpiau lleol Cymorth i Ferched ar draws y wlad. Defnyddiwch rif y Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref.