Neidio at y cynnwys

S4C

Cymorth

Annibyniaeth

Wrth i ni dyfu a mynd yn fwy annibynol, mae ein ffordd o edrych ar y byd yn newid trwy'r penderfyniadau da ni'n ei wneud, y ffrindiau da ni'n cadw a'r profiadau da ni'n eu dewis. Mae hyn yn digwydd trwy ein profiadau adref, yn yr ysgol a thrwy be da ni’n wneud gyda ffrindiau yn ein amser hamdden.

Mae'r erthyglau yma'n edrych ar y sefyllfaoedd sy'n codi yn aml wrth i ni dyfu fyny, a ble i gael y cyngor gorau fel eich bod yn gallu dod i benderfyniadau dros chi'ch hun.

Cysylltiadau defnyddiol

  • Meic

    Llinell wybodaeth a gwasanaeth arlein am ddim ar unrhyw bwnc os ydych rhwng 0-25.

  • Childline Cymru

    Os ydych dan 18 ac yn poeni am unrhyw beth, gallwch gael help unrhyw awr o'r dydd neu nos drwy ffonio Childline Cymru am ddim, neu drwy fynd i'w gwefan am fwy o wybodaeth. Mae yna oedolion yna i'ch helpu chi sortio unrhyw broblem yn eich bywyd. Os ydych fethu clywed yn dda iawn gallwch ffonio drwy ffôn testun ar y rhif sy'n cael ei roi yma.

    • Rhif ffôn: 0800 1111 (24 awr y diwrnod)
    • Ffôn testun: 0800 400 222 (9.30am-9.30pm yn ystod yr wythnos, 11am-8pm ar benwythnosau)
    • Ymweld â'r wefan
  • ClicArlein

    Sianel ar y we sy'n llawn gwybodaeth defnyddiol i bobl rhwng 11-25 oed yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys y newyddion diweddaraf, eich iechyd, addysg a phob math o bynciau eraill pwysg wrth i chi dyfu.

  • TheSite.org

    Mae TheSite.org yn wefan a chymuned ar-lein ardderchog sy'n edrych ar ystod eang o bynciau, popeth o gyngor ar gyffuriau, alcohol a dibyniaeth i beth i wneud os yn beichiogi'n annisgwyl neu os mae perthynas eich rhieni'n chwalu. Cyngor hefyd os ydych yn colli rhywun agos. Straeon, byrddau neges diddorol a llawer mwy, yn cynnwys cyfeirio ar linellau cymorth addas.